Ymateb yr Awdurdod Safonau Proffesiynol i gyhoeddiad yr Adolygiad Mamolaeth Annibynnol o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford
30 Mawrth 2022
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn croesawu cyhoeddi adroddiad terfynol yr Adolygiad Mamolaeth Annibynnol o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford ('Adolygiad Ockenden').
Roedd yr Adolygiad, a gyhoeddodd ei ganfyddiadau interim yn 2020, yn archwilio achosion yn ymwneud â niwed y gellir ei osgoi a marwolaethau yn effeithio ar dros 1,486 o deuluoedd a ddigwyddodd yn bennaf rhwng 2000 a 2019 yn Ysbyty Brenhinol Amwythig ac Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford.
Mae ein meddyliau gyda’r menywod a’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt, gyda llawer ohonynt nid yn unig wedi dioddef profiadau trasig a newidiol eu bywydau ond hefyd wedi gorfod brwydro i gael cydnabyddiaeth briodol i’r pryderon a godwyd ganddynt.
Mae'r adroddiad yn nodi nifer o themâu sydd wedi bod yn bresennol mewn adroddiadau ymchwiliadau cyhoeddus eraill gan gynnwys y rhwystrau i gleifion rhag cael eu clywed a diwylliant o ofn yn atal staff rhag siarad. Mae angen gwneud mwy i sicrhau y gweithredir ar themâu a chanfyddiadau ymchwiliadau cyhoeddus mewn ffordd amserol a chydgysylltiedig i atal niwed yn y dyfodol.
Byddwn yn archwilio canfyddiadau’r adroddiad ymhellach ac yn gweithio gyda’r rheolyddion proffesiynol yr ydym yn eu goruchwylio wrth iddynt adolygu unrhyw gamau y gall fod angen iddynt eu cymryd mewn ymateb.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk