Ymateb yr Awdurdod Safonau Proffesiynol i gyhoeddiad Adroddiad Ockenden

11 Rhagfyr 2020

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Ockenden sy’n ymdrin â’r canfyddiadau a’r argymhellion sy’n dod i’r amlwg o’r adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford.

Mae'r adroddiad yn gwneud darlleniad prudd am straeon menywod a'u teuluoedd a ddioddefodd brofiadau a newidiodd eu bywydau mewn llawer o achosion. Mae ein meddyliau gyda phawb yr effeithir arnynt.

Mae’n nodedig bod llawer o’r canfyddiadau’n adleisio’n drist rhai adolygiadau diweddar eraill gan gynnwys yr anawsterau y mae cleifion yn eu hwynebu wrth leisio’u barn pan fydd pethau wedi mynd o chwith. Mae'n hanfodol bod y system yn gallu dysgu a sicrhau bod newidiadau'n cael eu gwneud i osgoi ailadrodd y digwyddiadau trasig hyn.

Byddwn yn archwilio’r adroddiad ymhellach ac yn gweithio gyda’r rheolyddion proffesiynol a oruchwyliwn wrth iddynt ystyried unrhyw gamau i fynd i’r afael â’r canfyddiadau sy’n berthnasol i reoleiddio proffesiynol.    

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

E-bost: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion