Arolwg Rhanddeiliaid yr Awdurdod Safonau Proffesiynol 2022
01 Chwefror 2022
Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn cynnal arolwg i geisio adborth gan ein rhanddeiliaid am ein gwaith, ein blaenoriaethau a’n dull o gyfathrebu ac ymgysylltu. Bydd yr arolwg yn rhedeg o heddiw tan 17:00 ddydd Llun, 7 Mawrth 2022 .
Rydym yn bwriadu defnyddio’r adborth a gawn i:
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni ein cynllun busnes 2022/23 a bwydo i mewn i gynllunio busnes ar gyfer 2023/24
- Llywio'r adolygiad o'n Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
- Cefnogi unrhyw welliannau i’n gwaith cyffredinol a’n dull o gyfathrebu ac ymgysylltu.
Gellir cyrchu'r arolwg yma . Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael copi o’r arolwg mewn fformat arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost atom yn: engagement@professionalstandards.org.uk
Mae cwestiynau'r arolwg hefyd ar gael yn Gymraeg - gallwch ddod o hyd iddynt yma .