Mae’r PSA yn mynegi ei gefnogaeth i ymddiheuriad y GMC dros sancsiynau hanesyddol yn seiliedig ar euogfarnau o dan gyfreithiau homoffobig
22 Chwefror 2024
Heddiw mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi cyhoeddi ymddiheuriad ffurfiol i feddygon a oedd yn destun achos addasrwydd i ymarfer neu achosion rheoleiddio eraill oherwydd euogfarnau o dan ddeddfau homoffobig sydd bellach wedi'u diddymu.
Er bod y rhain yn achosion hanesyddol, credwn ei bod yn bwysig cydnabod y difrod a wnaed a chroesawn yr ymddiheuriad hwn a chefnogwn y GMC i gymryd y cam hwn.
Credwn nad oes lle i wahaniaethu yn ein systemau iechyd a gofal, nac yn y gymdeithas gyfan.