PSA i sefydlu grŵp goruchwylio ar gyfer rhaglen newid yr NMC

30 Gorffennaf 2024

Ar 9 Gorffennaf, cyhoeddwyd datganiad cychwynnol gennym mewn ymateb i adolygiad diwylliant annibynnol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a ganfu fod pobl sy’n gweithio yn y sefydliad wedi profi hiliaeth, gwahaniaethu a bwlio, a thystiolaeth o fethiannau diogelu.

Mae'r NMC wedi derbyn argymhellion yr adolygiad yn llawn ac wedi ymrwymo i weithredu rhaglen newid. Mae’r Llywodraeth bellach wedi gofyn inni sefydlu grŵp goruchwylio a chymorth. Bydd y grŵp hwn yn:

  • derbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yr NMC;
  • craffu ar effaith mesurau a gyflwynwyd gan yr NMC i wella ei ddiwylliant a'i berfformiad; a
  • darparu mewnwelediad a chyngor ar gamau pellach sydd eu hangen.

Bydd y grŵp yn cynnwys Prif Swyddogion Nyrsio o bedair gwlad y DU, cynrychiolwyr o undebau llafur, swyddogion polisi o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) a Gweinyddiaethau Datganoledig, ac arbenigwyr perthnasol. Mae'r gwaith i sefydlu'r grŵp hwn yn mynd rhagddo.

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fonitro’r NMC yn agos ac wedi cyfarfod â’i Gadeirydd a’i Brif Weithredwr Dros Dro i drafod y camau cychwynnol y mae’r sefydliad yn eu cymryd mewn ymateb i’r canfyddiadau, a datblygiad ei gynllun gweithredu tymor hwy.

Byddwn yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad diwylliant fel rhan o'n hasesiad o berfformiad yr NMC ar gyfer 2023/24. Ochr yn ochr â’r adolygiad diwylliant, roedd Ijeoma Omambala KC wedi’i gomisiynu gan yr NMC i gynnal adolygiad o rai o’i achosion addasrwydd i ymarfer a’r modd yr ymdriniodd â phryderon ynghylch chwythu’r chwiban. Disgwylir i'r adolygiad hwnnw gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni a byddwn yn aros am ei ganfyddiadau cyn i ni wneud penderfyniad terfynol am berfformiad yr NMC ar gyfer 2023/24.

Rydym wedi trafod yr adolygiad diwylliant gyda Chadeiryddion y rheolyddion eraill a oruchwyliwn. Rydym wedi gofyn i'r rheolyddion ddweud wrthym am y camau y maent yn eu cymryd o fewn eu sefydliadau eu hunain i sicrhau eu hunain nad oes pryderon tebyg. Rydym hefyd wedi gofyn am fanylion y trefniadau sydd ganddynt ar waith i gefnogi staff sy'n codi llais ac i weithredu ar bryderon. Byddwn yn cymryd camau pellach os nad ydym yn credu bod eu trefniadau yn effeithiol.

 

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

 

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk



 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion