Mae'r PSA yn gwahodd safbwyntiau ar ei adolygiad o Safonau ar gyfer rheoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig

13 Chwefror 2025

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA) yn ceisio barn ynghylch a yw’r safonau y mae’n eu defnyddio i ddiogelu’r cyhoedd yn gweithio’n dda ac a fyddant yn addas ar gyfer y dyfodol. Heddiw, mae’r PSA yn lansio ymgynghoriad tri mis ar ei Safonau ar gyfer asesu perfformiad sefydliadau sy’n cofrestru ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth, ymarferwyr iechyd a gofal, y sefydliadau y mae’n eu goruchwylio ac eraill ddweud wrth y PSA beth yw eu barn am y Safonau presennol, ac i helpu i lunio’r ffordd y caiff rheolyddion a Chofrestrau Achrededig eu hasesu yn y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle i awgrymu meysydd y dylid edrych arnynt nad ydynt yn dod o dan y Safonau ar hyn o bryd.

Dywedodd Alan Clamp, Prif Swyddog Gweithredol PSA:

“Yn yr amgylchedd heriol y mae ymarferwyr iechyd a gofal yn ei brofi, mae’n parhau i fod yn fwyfwy pwysig blaenoriaethu diogelwch wrth addasu i newid. 

Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n hanfodol bod y Safonau’n canolbwyntio ein sylw ar y pethau cywir fel y gallwn asesu perfformiad ac ysgogi gwelliant o ran rheoleiddio a chofrestru ymarferwyr er budd y cyhoedd. 

Mae croeso i bob barn ar ein Safonau.”

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn, mae’r PSA yn galw am dystiolaeth, megis ymchwil, data neu dystiolaeth gyhoeddedig arall, sy’n awgrymu ffyrdd y gallai rheoleiddio a chofrestru proffesiynol wella. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio meddwl am ddyfodol diogelu'r cyhoedd a'r Safonau diwygiedig.   

Mae’r ymgynghoriad ar agor rhwng 13 Chwefror ac 8 Mai 2025

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, y cais am dystiolaeth, a sut i ymateb, ar ein tudalen we bwrpasol .

Disgwylir i’r Safonau diwygiedig ddod i rym o fis Ebrill 2026.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i Senedd y DU. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni ac yn parhau i'w bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk
  8. Rydym yn adolygu ein Safonau Rheoleiddio Da a Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig i sicrhau eu bod yn amddiffyn y cyhoedd yn effeithiol ac yn cynnal safonau proffesiynol. 
  9. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gawn yn cael eu defnyddio i ddatblygu ein hymagwedd at y dyfodol, a allai gynnwys Safonau newydd ar feysydd fel diwylliant, llywodraethu neu ddyletswydd gonestrwydd; neu ddileu neu symleiddio Safonau cyfredol. 
  10. Mae rhagor o wybodaeth am ein Cais am Dystiolaeth ar gael yma

Lawrlwythwch

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion