Prif gynnwys

Mae'r PSA yn lansio Safonau Hawdd eu Darllen i ehangu mynediad at wybodaeth diogelu'r cyhoedd

05 Awst 2026

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi fersiwn Hawdd ei Darllen o'n Safonau newydd ar gyfer rheoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ac a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf 2026.

Mae'r fersiwn Hawdd ei Darllen, sydd ar gael yn Saesneg a Chymraeg, yn defnyddio iaith gryno gyda darluniau mewn fformat hawdd ei ddeall. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac ar gyfer unrhyw un arall a allai gael fformat Hawdd ei Darllen yn ddefnyddiol.

Mae gwneud gwybodaeth yn hygyrch drwy drawsnewid iaith gymhleth yn destun clir a dealladwy yn helpu pawb i ddeall ein gwaith. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl ddeall sut rydym yn asesu rheoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig, a'r hyn y dylent allu ei ddisgwyl ganddynt.

Mae'r Safonau newydd yn dwyn ynghyd ein Safonau ar wahân blaenorol ar gyfer rheoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig yn un fframwaith cliriach. Maent yn rhoi mwy o bwyslais ar feysydd gan gynnwys arweinyddiaeth a llywodraethu, rheoli risg, gofal sy'n canolbwyntio ar y person, diogelu a gweithio gydag eraill i wella diogelwch y cyhoedd.