Prif gynnwys
PSA yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar reoleiddio gweithdrefnau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
19 Chwefror 2025
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar reoleiddio triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol.
Rydym yn annog holl lywodraethau’r DU i gydweithio i ddarparu dull gweithredu cyson.
Rydym yn bryderus iawn am y risgiau parhaus, heb eu rheoli sy'n deillio o driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol fel Botox a llenwyr. Rydym yn parhau i glywed am achosion o niwed i gleifion o ganlyniad i rai o'r triniaethau hyn oherwydd rheoleiddio annigonol. Rydym yn cefnogi cynigion Llywodraeth yr Alban i dynhau hyn drwy gyflwyno cynllun trwyddedu haenog.
Cyn cyflwyno unrhyw reoleiddio pellach yn y maes hwn, mae'n bwysig bod pobl yn parhau i wirio pwy sy'n eu trin.
Rydym wedi achredu dwy gofrestr ar gyfer ymarferwyr cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol Save Face a'r Cyd-gyngor Ymarfer Cosmetig (JCCP) . Mae achrediad yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a chyflogwyr bod ymarferwyr yn gymwys a bod prosesau cwyno cadarn yn sail i wasanaethau.