Prif gynnwys
Ymateb PSA i Adolygiad Leng
16 Gorff 2025
Rydym yn croesawu adroddiad yr adolygiad annibynnol i broffesiynau meddygon cyswllt a meddygon cyswllt anesthesia (adolygiad Leng) a'r dull cydweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a gymerwyd gan yr Athro Gillian Leng a'i thîm.
Mae'n amlwg bod llawer o ddysgu i arweinwyr y sector ar sut i ddatblygu rolau presennol a chyflwyno rolau newydd, gan gadw pobl yn ddiogel a chynnal hyder proffesiynol a chyhoeddus. Bydd y gwaith hwn yn werthfawr wrth gynllunio a gweithredu'r Cynllun Iechyd 10 Mlynedd newydd ar gyfer Lloegr. Bydd hefyd yn bwysig bod ymateb cydlynol ar draws y system i'r argymhellion yn Adolygiad Leng, sy'n ystyried system reoleiddio ledled y DU. Mae'r PSA yn awyddus i gyfrannu at y trafodaethau hyn, gan dynnu ar ein harbenigedd fel y corff goruchwylio ledled y DU ar gyfer rheoleiddwyr proffesiynau.
Rydym yn adolygu'r adroddiad llawn yn fanwl i ystyried y goblygiadau posibl i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r rheoleiddwyr eraill yr ydym yn eu goruchwylio.