Datganiad PSA yn ymateb i alwadau am reoleiddio rheolwyr y GIG
20 Medi 2023
Mae achosion brawychus Lucy Letby a Sam Eljamel wedi ein syfrdanu. Cydymdeimlwn â’r cleifion a’r teuluoedd sydd wedi profi niwed, colled a thristwch mor ddinistriol.
Yn sgil dyfarniad Lucy Letby, mae GIG Lloegr yn edrych eto i weld a ddylai Rheolwyr GIG anghlinigol gael eu rheoleiddio. Mae Comisiynydd Diogelwch Cleifion Lloegr wedi datgan yn ddiweddar y byddai’n croesawu Cofrestr Achrededig o uwch arweinwyr ym maes iechyd. Nodwn hefyd fod adolygiad Kark wedi gwneud argymhellion tebyg ynghylch sicrhau safonau cymhwysedd cyson, yn ogystal â gwybodaeth dryloyw a chanolog am Fyrddau a chyfarwyddwyr Byrddau ar gyfer y GIG yn Lloegr. Mae achos Sam Eljamel yn yr Alban yn codi cwestiynau tebyg am weithredoedd ac atebolrwydd rheolwyr yn y GIG.
Hoffem gynnig ein harbenigedd – fel yr ydym wedi’i wneud yn ddiweddar drwy ysgrifennu at GIG Lloegr – wrth archwilio opsiynau ar gyfer y ffordd ymlaen. Rydym yn goruchwylio'r 10 rheolydd statudol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn arbenigwyr polisi ym maes rheoleiddio. Rydym hefyd yn rheoli’r rhaglen Cofrestrau Achrededig a gefnogir gan y llywodraeth ar gyfer cofrestrau o alwedigaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd nad ydynt yn destun rheoleiddio statudol.
Rydym yn awyddus i gefnogi ymdrechion cydweithredol i fynd i’r afael â risgiau i ddiogelwch cleifion drwy gydweithio i ddod o hyd i atebion priodol. Byddem yn annog llunwyr polisi i ystyried yr ystod lawn o offer sydd ar gael i reoli’r risgiau, a all gynnwys adolygu mecanweithiau presennol, neu ofyn a oes angen gweithredu i wella eu heffeithiolrwydd, yn ogystal â modelau cofrestru a/neu reoleiddio posibl.
Byddwn yn gweithio gyda phedair Llywodraeth y DU, cyrff y GIG a rhanddeiliaid ledled y DU i ddeall lle mae’r risgiau a’r problemau ac i gynnig atebion i ddiogelu’r cyhoedd.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r PSA wedi cyhoeddi dau bapur dylanwadol ar ddatblygu polisi rheoleiddio, gan gynnwys offeryn i arwain penderfyniadau ynghylch a ddylid rheoleiddio galwedigaeth a sut: Rheoleiddio cyffyrddiad cywir a sicrwydd cyffyrddiad cywir
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk