Ymchwil a gyhoeddwyd: Dweud y gwir wrth gleifion pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le
08 Ionawr 2019
Rydym newydd gyhoeddi ein hymchwil diweddaraf: Dweud y gwir wrth gleifion pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le . Mae’r papur hwn yn nodi’r cynnydd y mae rheolyddion proffesiynol yr ydym yn eu goruchwylio wedi’i wneud o ran sefydlu’r ddyletswydd gonestrwydd proffesiynol (bod yn agored ac yn onest i glaf pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le yn ei ofal) ledled y DU ers 2014.
Mae canfyddiadau'r papur yn seiliedig ar grwpiau trafod gyda staff rheoleiddio a phanelwyr addasrwydd i ymarfer a gynhaliwyd gan Annie Sorbie (Darlithydd mewn Cyfraith Feddygol a Moeseg ym Mhrifysgol Caeredin) a holiaduron gan reoleiddwyr a rhanddeiliaid ar draws iechyd a gofal.
Mae’r papur yn gwneud y prif gasgliadau a ganlyn:
- Mae Rheoleiddwyr wedi gwneud cynnydd gyda mentrau i annog gonestrwydd. Fodd bynnag, mae mesur llwyddiant y mentrau hyn yn anodd.
- Mae llawer o’r rhwystrau sy’n atal gweithwyr proffesiynol rhag bod yn onest yn parhau i fod yr un fath ag yn 2014 pan wnaethom weithio ddiwethaf yn y maes hwn.
- Gallai rheoleiddwyr greu mwy o astudiaethau achos o senarios gonestrwydd. Byddai hyn yn helpu i egluro'n well i weithwyr proffesiynol pryd i fod yn onest a chanlyniadau rheoleiddiol peidio â bod yn onest.
- Mae gwreiddio gonestrwydd yn llwyddiannus yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ar draws gofal iechyd (nid rheoleiddwyr yn unig) gydweithio.
Rydym wedi gwneud gwaith ar y maes hwn o'r blaen megis pan ofynnodd y Llywodraeth inni gynghori ac adrodd ar gynnydd rheolyddion yn y meysydd hyn ar ôl Adroddiad Francis. Mae ein holl waith ar onestrwydd i'w weld yma .
Cysylltwch â Michael Warren , Cynghorydd Polisi, os hoffech ragor o fanylion am ymchwil yr Awdurdod i'r ddyletswydd gonestrwydd proffesiynol.
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
Derbynfa: 020 7389 8030
E: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk