Cyhoeddi adolygiad o ymchwil i reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal
28 Gorffennaf 2020
Ym mis Ionawr eleni fe wnaethom gomisiynu tîm annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad o’r ymchwil i reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal ers 2011.
Y tri amcan allweddol ar gyfer yr ymchwil hwn oedd:
- Dod o hyd i ymchwil ym maes rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal yn Saesneg ers 2011;
- Gwerthuso'r ymchwil a thynnu allan yr hyn y mae wedi'i ddysgu i ni; a
- Nodi unrhyw fylchau yn yr ymchwil a meysydd a fyddai'n elwa o archwilio'n ddyfnach er mwyn llywio ffocws ymchwil bellach a pharhau i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal.
Yn ogystal â chraidd eu gwaith – asesiad cyflym o dystiolaeth o’r llenyddiaeth gyhoeddedig – cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfweliadau â’n cysylltiadau ymchwil a pholisi allweddol yn y rheolyddion, yn ogystal ag adolygu eu gwefannau.
O ran yr hyn y mae’r llenyddiaeth wedi’i ddysgu i ni, mae’r themâu allweddol wedi’u grwpio’n chwe maes, gan gynnwys Addysg a Hyfforddiant ac Atal Niwed a Diogelwch Cleifion. Canfyddiad cyffredinol cryf sy’n deillio o’r gwaith yw – tra bod astudiaethau rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal yn prysur ddod i’r amlwg fel maes newydd – ei fod yn dal i fod yn llai datblygedig o’i gymharu â meysydd eraill, megis astudiaethau ariannol, cyfreithiol neu reoleiddio hedfan.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma neu weld crynodeb o'r canfyddiadau yn y ffeithlun hwn .
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk