Asesiad sicrwydd cyffyrddiad cywir ar gyfer sonograffwyr

02 Gorff 2019

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol (yr Awdurdod) heddiw wedi cyhoeddi adroddiad sy’n asesu’r risg o niwed sy’n deillio o ymarfer sonograffwyr.

Cawsom ein comisiynu gan Health Education England (HEE) i ddadansoddi’r dystiolaeth sydd ar gael o dan y meini prawf a amlinellwyd gennym yn Sicrwydd cyffyrddiad cywir: methodoleg ar gyfer asesu a sicrhau risg galwedigaethol o niwed a darparu cyngor ar y math mwyaf priodol o sicrwydd ar gyfer y rôl.

Mae rôl sonograffydd yn gofyn am lefel uchel o sgil a gwybodaeth glinigol ar draws ystod o feysydd ac mae unigolion yn aml yn ymarfer gydag ymreolaeth sylweddol. Mae risgiau cynhenid yn deillio o arferion sonograffwyr, gan gynnwys camddiagnosis a chamddefnyddio offer uwchsain, er mai ychydig o dystiolaeth a welsom o niwed eang. Fodd bynnag, gall hyn fod oherwydd cyfyngiadau yn y data.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, rydym wedi dod i’r casgliad y byddai angen ystyried rheoleiddio statudol yn y dyfodol, os daw’r newidiadau i lwybrau mynediad i’r proffesiwn ac i’r arfer sonograffi a nodir yn ein hadroddiad i’r amlwg.

Ar hyn o bryd, mae risgiau i’w gweld yn cael eu rheoli’n dda oherwydd bod y rhan fwyaf o’r rhai sy’n ymarfer fel sonograffwyr eisoes yn cael eu rheoleiddio mewn rolau proffesiynol eraill ac mae ganddynt gymwysterau ôl-raddedig. Fodd bynnag, os bydd niferoedd uwch yn mynd i'r rôl yn uniongyrchol trwy'r llwybr israddedig fel y cynlluniwyd, mae hyn ynghyd â mwy o fregusrwydd a chymhlethdod cleifion sy'n cael triniaethau uwchsain yn awgrymu y byddai angen rheolaethau pellach.

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma .

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Derbynfa: 020 7389 8030

E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk

E-bost: info@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion