Prif gynnwys
Crynodeb o ganlyniadau arolwg rhanddeiliaid
13 Mai 2025
Gofynnwyd i ystod eang o'n rhanddeiliaid am eu barn ar wahanol agweddau ar ein gwaith. Er mwyn cefnogi ein gwaith parhaus ac wrth i ni ddechrau gwneud cynlluniau ar gyfer datblygu Cynllun Strategol 2026-29 y PSA, roeddem yn awyddus i glywed gan ein rhanddeiliaid fel y gallwn ddefnyddio eu mewnbwn i helpu i lywio'r ffordd rydym yn gweithio a'r cynlluniau a wnawn ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Fe wnaethon ni rannu ein harolwg ym mis Medi 2024, dadansoddi'r adborth ac wedi datblygu rhai camau gweithredu cychwynnol o ganlyniad. Mae rhywfaint o'r adborth hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'n cynllunio strategol tymor hwy a bydd yn helpu i lunio'r cynllun sydd ar ddod a chamau gweithredu yn y dyfodol.
Lawrlwythwch infograffig i gael gwybod mwy am yr adborth a gawsom a'r camau y byddwn yn eu cymryd neu edrychwch ar y delweddau mân isod.