Beth sydd wedi'i gyflawni ym maes rheoleiddio iechyd proffesiynol hyd yma? Awdurdod Safonau Proffesiynol yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol
09 Gorffennaf 2018
Mae'r Awdurdod wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol heddiw. Yn yr adroddiad, rydym yn achub ar y cyfle i edrych yn ôl, gan olrhain adegau allweddol yn natblygiad y fframwaith rheoleiddio, gan danlinellu pam fod angen diwygio.
Gosodwyd yr adroddiad gerbron y Senedd ar 28 Mehefin 2018 ac mae’n cyflawni dyletswydd yr Awdurdod i adrodd i’r Senedd ar ein perfformiad ein hunain; a pherfformiad y rheolyddion gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a'r cofrestrau achrededig a oruchwyliwn.
Wrth inni aros am ganlyniad ymgynghoriad y llywodraeth ar ei chynlluniau i ddiwygio rheoleiddio proffesiynol, mae’r adroddiad yn cydnabod y cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran newidiadau i lywodraethu rheoleiddwyr. Fodd bynnag, mae hefyd yn amlygu sut mae angen i brofiad cleifion fod yn gwbl ganolog i reoleiddio proffesiynol a bod angen diwygio achosion addasrwydd i ymarfer ar frys er budd cofrestryddion a chleifion. Mae’n nodi’r newidiadau amrywiol y mae rhai rheolyddion yn eu gwneud i’w prosesau addasrwydd i ymarfer a’r symudiad tuag at gytundebau cydsyniol a phenderfyniadau ynghylch addasrwydd i ymarfer yn cael eu gwneud y tu allan i wrandawiadau panel.
Er ein bod yn cytuno ei bod yn bwysig bod prosesau rheolyddion yn annog datrysiad cynnar ac adferiad, mae bwlch o ran diogelu'r cyhoedd os na all yr Awdurdod adolygu'r penderfyniadau hyn ac rydym yn ceisio sicrhau y gallwn wneud hynny.
Yn 2017/18.
- Gwnaethom adolygu perfformiad yr holl reoleiddwyr a chanfod pryderon penodol am yr HCPC y mae'r HCPC yn mynd i'r afael â hwy. Ni chyhoeddasom ein hadolygiad o’r NMC oherwydd yr Adolygiad Gwersi a Ddysgwyd o’r modd yr ymdriniwyd â phryderon am yr uned bydwreigiaeth yn Ysbyty Cyffredinol Furness.
- Tyfodd y rhaglen Cofrestrau Achrededig i 25 o gofrestrau a thros 85,000 o ymarferwyr. Fe wnaethom dynnu achrediad oddi ar un gofrestr a chyhoeddi 11 o Amod ar draws wyth o'r cofrestrau a oedd yn cadw eu hachrediad er mwyn sicrhau bod y cofrestrau hyn yn parhau i ddiogelu'r cyhoedd. Rydym wedi tynnu sylw at yr angen i ddiwygio'r rhwystrau deddfwriaethol i botensial amddiffyn y cyhoedd llawn y cofrestrau a'r rhaglen, a achosir gan gyfyngiadau'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr a'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf.
- Mae ein hadroddiad Right-touch reform yn rhoi disgrifiad manwl o’r trefniadau rheoleiddio presennol a’n presgripsiwn ar gyfer diwygio.
Dywedodd Harry Cayton, prif weithredwr; 'Dyma'r adroddiad blynyddol olaf y byddaf yn ei gymeradwyo. Mae'n edrych yn ôl ar gyflawniadau niferus yr Awdurdod ond hefyd ymlaen at y gobaith am ddiwygiadau a fframwaith rheoleiddio sy'n addas ar gyfer y dyfodol.'
Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn neu'r uchafbwyntiau . Gweler rhai o'n prif ystadegau am y flwyddyn yma . Mae'r adroddiad hefyd ar gael yn Gymraeg . Mae ystadegau allweddol yn cwmpasu ein gwaith yn adolygu'r rheolyddion , achredu cofrestrau a gwella rheoleiddio .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite
Cyfarwyddwr, Polisi a Safonau
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Derbynfa: 020 7389 8030
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd) yn goruchwylio naw corff statudol sy'n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk