Ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ar ganllawiau diwygiedig ar ddychwelyd i ymarfer
11 Ebrill 2017
Canllawiau diwygiedig yr HCPC
Rydym yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau ar ganllawiau diwygiedig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ar ddychwelyd i ymarfer. Rydym yn cefnogi’r angen i sicrhau bod unigolion sydd wedi bod allan o ymarfer yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y sgiliau a’r wybodaeth berthnasol cyn iddynt ddychwelyd i sicrhau bod risgiau i’r cyhoedd yn cael eu lleihau. Yn gyffredinol, mae'n ymddangos bod y canllawiau'n nodi'r broses hon yn glir.