Ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Elusennau ar ddefnyddio a hyrwyddo meddygaeth gyflenwol ac amgen
22 Mai 2017
Rydym yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn gan y Comisiwn Elusennau ar ddefnyddio a hyrwyddo meddygaeth gyflenwol ac amgen (CAM): gwneud penderfyniadau am statws elusennol.
Mae ein diddordeb mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn deillio o’n rôl yn asesu ac yn achredu cofrestrau o ymarferwyr mewn galwedigaethau nad ydynt wedi’u rheoleiddio gan y gyfraith. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2012) yn rhoi awdurdod i ni osod safonau ar gyfer cofrestrau o’r fath a’u hachredu. Rydym wedi achredu 23 o gofrestrau hyd yma, ac mae rhai ohonynt yn elusennau. Mae gan rai cofrestrau ymarferwyr therapi cyflenwol, er nad yw'r rhai yr ydym wedi'u hachredu hyd yma yn elusennau.