Prif gynnwys
Baner tudalen gyhoeddi

Ymgynghoriad ar adolygiad o'r Safonau Rheoleiddio Da

12 Mehefin 2017

Ym mis Mehefin 2017, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar newidiadau posibl i’r Safonau. Roedd yr ymgynghoriad yn ystyried y meysydd canlynol:

  • Pa feysydd o waith y rheolyddion y dylid eu hystyried yn y Safonau diwygiedig
  • A ddylid mabwysiadu Safonau newydd
  • A ddylid rhesymoli'r Safonau i ddileu rhai meysydd o ddyblygu neu lle nad yw Safonau'n angenrheidiol neu'n ddefnyddiol mwyach
  • A ddylid newid cyflwyniad y Safonau
  • A oedd y dull 'bodlonwyd/heb ei fodloni' o asesu perfformiad yn erbyn y Safonau yn parhau'n briodol. 

Defnyddiwyd y Safonau hyn i weithio gyda'r rheolyddion i'w helpu i ddatblygu a gwella a rhaid i ni herio ein hunain i wneud yr un peth. Yn 2016 fe wnaethom gyflwyno proses adolygu perfformiad newydd ac roeddem yn meddwl ei bod yn bryd adolygu’r Safonau.

Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 12 Medi 2017. Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn, cofrestrwch i gael ein e-gylchlythyr rhad ac am ddim .