Adolygu Perfformiad - Cyngor Meddygol Cyffredinol 2017/18

21 Mehefin 2019

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Ystadegau allweddol:

  • Yn rheoleiddio ymarfer meddygon yn y Deyrnas Unedig
  • 298,011 (ar 30 Medi 2018)
  • Ffi o £390 am gofrestru gyda thrwydded i ymarfer neu £140 am gofrestru heb drwydded i ymarfer

Uchafbwyntiau

Mae'r GMC wedi bodloni pob un o'n 24 Safon Rheoleiddio Da eleni.

Addysg a Hyfforddiant: mae safonau'n gysylltiedig â safonau ar gyfer cofrestreion

Ym mis Mehefin 2018 cyhoeddodd y GMC ddogfen wedi'i diweddaru yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y mae'n rhaid i bob myfyriwr graddedig o ysgolion meddygol y DU feddu arnynt. Roedd hyn yn dilyn rhaglen o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Mae'r ddogfen wedi'i diweddaru yn pwysleisio'r cysylltiadau rhwng y safonau ar gyfer graddedigion a'r rhai ar gyfer cofrestreion. Cyhoeddodd y GMC hefyd ganllawiau ategol ar gyfer ysgolion meddygol, sy'n nodi'r arweiniad ar gyfer cofrestreion GMC y dylai graddedigion fod yn gyfarwydd ag ef.

Cofrestru: mae gwybodaeth am gofrestreion ar gael yn hawdd

Mae'r GMC wedi gwneud rhai newidiadau i'r modd y mae'n cyhoeddi gwybodaeth am sancsiynau addasrwydd i ymarfer. Diweddarodd ei bolisi cyhoeddi ym mis Chwefror 2018. Mae'r polisi newydd yn newid y terfyn amser ar gyfer cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth am sancsiynau, ac yn cadarnhau y bydd y GMC yn parhau i ddatgelu gwybodaeth berthnasol i gyflogwyr presennol ar gais. Mae'r GMC hefyd wedi gwneud newidiadau i'w gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i wybodaeth mewn achosion lle mae'r GMC wedi cytuno ar ymgymeriadau gyda chofrestrydd, neu lle mae'r archwilwyr achos yn penderfynu rhoi rhybudd i gofrestrai.

Addasrwydd i Ymarfer: gall unrhyw un godi pryder

Gwnaethom gynnal adolygiad ac archwiliad wedi'i dargedu o ddefnydd y GMC o ymholiadau dros dro. Ymholiadau yw'r rhain y mae'r GMC yn eu cynnal ar gam cychwynnol achos i benderfynu a oes angen ymchwiliad llawn. Cawsom wybodaeth gan y GMC a oedd yn dangos bod ei ddefnydd o ymholiadau dros dro yn gyson â'r flwyddyn flaenorol, a bod ganddo fesurau ar waith i sicrhau ansawdd penderfyniadau. Dywedodd y GMC wrthym hefyd am y camau y mae'n eu cymryd i adolygu a datblygu ei ddefnydd o ymholiadau dros dro. Roeddem am weld sut roedd ymholiadau amodol yn gweithio'n ymarferol. Fe wnaethom adolygu 40 o achosion. Canfuom:

  • roedd y rhesymeg dros gynnal ymholiad dros dro yn gyson â chanllawiau perthnasol y GMC
  • roedd y wybodaeth bellach a geisiwyd gan y GMC yn gyson â'r rhesymau a roddwyd dros gynnal ymholiad dros dro
  • cafodd y GMC ddigon o wybodaeth drwy'r ymholiad dros dro i wneud penderfyniad rhesymol
  • cymhwysodd y GMC y prawf priodol wrth wneud penderfyniadau am ganlyniad ymholiadau dros dro: hynny yw, a oedd y wybodaeth a dderbyniwyd yn gyfystyr â honiad o ddiffyg addasrwydd i ymarfer.

Ar y cyfan, roeddem o'r farn bod canlyniadau ymholiadau dros dro yn rhesymol ac yn briodol. Nid oedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ein harchwiliad yn nodi bod defnydd y GMC o ymholiadau dros dro yn ei gwneud yn anos i bobl godi pryderon.

Addasrwydd i Ymarfer: mae'r broses yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur

Mae'r GMC wedi bod yn cymryd camau i weithredu argymhellion Adolygiad Williams, adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan y Llywodraeth i ymchwilio i faterion yn ymwneud â dynladdiad drwy esgeulustod difrifol a rheoleiddio proffesiynol. Gwelsom fod y GMC wedi adolygu sut mae'n penderfynu a ddylai arfer ei bŵer apelio yn erbyn penderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol. Mae wedi cyflwyno panel gwneud penderfyniadau, a deallwn y bydd penderfyniadau’r panel yn cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn briodol, er mwyn hyrwyddo tryloywder wrth wneud penderfyniadau. Mae'r GMC hefyd wedi bod yn cymryd camau eraill i hyrwyddo tegwch yn ei broses addasrwydd i ymarfer. Mae wedi comisiynu prosiect ymchwil annibynnol i ddeall y rhesymau dros batrwm y cwynion y mae'n eu derbyn gan gyflogwyr a darparwyr gofal iechyd. Mae'r GMC eisiau deall beth sy'n gyfystyr ag arfer da wrth wneud penderfyniadau ynghylch gwneud atgyfeiriadau i'r GMC, a 'gweithio'n agosach ag arweinwyr clinigol i ddatblygu gweithleoedd cefnogol, agored a theg yn briodol'. 

Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:

Canllawiau a Safonau

4

4 allan o 4

Addysg a Hyfforddiant

4

4 allan o 4

Cofrestru

6

6 allan o 6

Addasrwydd i Ymarfer

10

10 allan o 10

Lawrlwythiadau