Adolygu Perfformiad - Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal 2018/19

09 Awst 2019

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Ystadegau allweddol:

  • Yn rheoleiddio ymarfer amrywiaeth o broffesiynau iechyd a gofal yn y DU
  • 369,139 o gofrestreion ar 31 Mawrth 2019
  • Tâl cofrestru blynyddol o £90

Uchafbwyntiau

Mae'r HCPC wedi bodloni'r holl Safonau Rheoleiddio Da ar gyfer Canllawiau a Safonau, Addysg a Hyfforddiant, a Chofrestru. Mae'r chwe Safon Addasrwydd i Ymarfer y methodd yr HCPC â'u bodloni yn ein dau adolygiad blaenorol, yn dal heb eu bodloni. Fodd bynnag, mae’r HCPC wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’n pryderon.

Canllawiau a Safonau: mae canllawiau ychwanegol yn helpu cofrestryddion i gymhwyso safonau'r rheolydd

Mae’r HCPC yn parhau i gynhyrchu canllawiau ychwanegol i helpu cofrestryddion i ddeall sut y dylent gymhwyso ei safonau. Eleni cyhoeddodd flog a oedd yn canolbwyntio ar ofal diwedd oes a siaradodd am y fframwaith cenedlaethol a gyflwynwyd gan y llywodraeth. Roedd y blog hwn hefyd yn cyfeirio cofrestreion at wefan arbenigol lle gallent gael mwy o wybodaeth. Roedd blog arall yn atgoffa cofrestreion am bwysigrwydd cynnal cyfrinachedd a rhoddodd gyngor ar sut i ddefnyddio’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol WhatsApp, LinkedIn a Twitter gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaeth. 

Addysg a Hyfforddiant: mae safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant yn gysylltiedig â safonau ar gyfer cofrestreion

Eleni mae'r HCPC wedi gweithredu i sicrhau bod ei Safonau Addysg a Hyfforddiant (SET) yn parhau i fod yn gysylltiedig â'r Safonau Ymddygiad, Perfformiad a Moeseg (SCPE). Yn dilyn ymgynghoriad ar gynigion i newid y lefel addysg orfodol sy'n angenrheidiol ar gyfer mynediad i'r gofrestr ar gyfer parafeddygon, cododd yr HCPC lefel y trothwy SET i lefel gradd. Penderfynodd yr HCPC newid y lefel SET ar gyfer parafeddygon am sawl rheswm: mae'r rhan fwyaf o'i gyrsiau parafeddygon cymeradwy presennol yn cyflawni cymhwyster sy'n uwch na'r trothwy presennol; mae'r modelau gwasanaeth yn y proffesiwn wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae adroddiadau allanol wedi argymell bod angen parafeddygon â gradd gymwys i wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau. Bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2021.

Cofrestru: mae'r broses gofrestru yn effeithlon, yn dryloyw, yn ddiogel ac yn gwella'n barhaus

Gwnaethom gynnal adolygiad wedi’i dargedu o’r Safon hon oherwydd inni dderbyn gwybodaeth am oedi yn yr amser a gymerwyd i brosesu ceisiadau gan ymgeiswyr a enillodd eu cymwysterau y tu allan i ardal yr UE/AEE. Roeddem am ddeall beth oedd yn achosi'r oedi. Amlinellodd yr HCPC ei drefniadau ar gyfer prosesu’r ceisiadau hyn a nododd fod yr amserlenni yn y wybodaeth a gawsom yn cynnwys rhannau o’r broses gofrestru y tu hwnt i’w reolaeth. Dywedodd wrthym hefyd ei fod yn bodloni ei safonau gwasanaeth. Fe wnaethom adolygu perfformiad yr HCPC yn y maes hwn dros y tair blynedd diwethaf a nodi bod yr oedi a adroddwyd i ni yn cyfrif am oddeutu pedwar y cant o'r ceisiadau a dderbyniwyd gan y grŵp hwn o ymgeiswyr. Penderfynasom na allem ddweud bod yr oedi hwn yn dangos problem gyda phrosesau cofrestru HCPC. Fe nodom efallai nad oedd y wybodaeth a gawsom gan yr HCPC yn cofnodi cyfanswm yr amser a gymerwyd i brosesu ceisiadau cofrestru cychwynnol. Rydym yn ymwybodol y gallai hyn fod yn wir ar draws y rheolyddion eraill yr ydym yn eu goruchwylio a byddwn yn edrych ar y mater hwn fel rhan o’n gwaith ehangach ar berfformiad y rheolyddion.

Addasrwydd i Ymarfer

Mae’r HCPC wedi methu â bodloni chwech o’r Safonau Addasrwydd i Ymarfer yn ein dau adolygiad blaenorol. Ar gyfer ein hadolygiad ar gyfer 2018/19, mae’r Safonau hyn yn dal heb eu bodloni (Safonau 1, 3, 4, 5, 6 ac 8). Fe wnaethom nodi pryderon am y Safonau hyn i ddechrau yn ein hadolygiad perfformiad 2016/17 pan wnaethom ganfod problemau gyda’r ffordd yr oedd yr HCPC yn rheoli ei asesiad cychwynnol ac ymchwiliad i gwynion. Derbyniodd yr HCPC ein pryderon a datblygodd gynllun gwella i fynd i’r afael â nhw. Cynhaliwyd adolygiad wedi'i dargedu o'r Safonau hyn eleni. Mae’r HCPC wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w bolisïau, gweithdrefnau a phrosesau ac mae’n rhagweld y bydd y rhain yn mynd i’r afael â’n pryderon yn llwyddiannus. Ni fyddai wedi bod yn bosibl inni farnu effaith y newidiadau hyn eleni gan nad oedd rhai ohonynt wedi’u cwblhau yn y cyfnod dan sylw. O ganlyniad, ni allwn ddweud bod yr HCPC wedi cyrraedd y Safonau hyn eleni. Byddwn yn asesu effaith y newidiadau hyn pan fyddwn yn archwilio perfformiad yr HCPC y flwyddyn nesaf.

Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:

Canllawiau a Safonau

4

4 allan o 4

Addysg a Hyfforddiant

4

4 allan o 4

Cofrestru

6

6 allan o 6

Addasrwydd i Ymarfer

4

4 allan o 10

Lawrlwythiadau