Adolygu Perfformiad - Cyngor Osteopathig Cyffredinol 2019/20

03 Gorffennaf 2020

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Osteopathig Cyffredinol.

Ystadegau allweddol:

  • yn rheoleiddio ymarfer osteopathi yn y Deyrnas Unedig
  • 5,457 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr
  • ffi flynyddol o £320 ar gyfer cofrestru am y flwyddyn gyntaf; £430 am yr ail flwyddyn; a £570 ar gyfer pob blwyddyn ddilynol

Uchafbwyntiau

Yn ein hadolygiad blynyddol o berfformiad, canfuom nad oedd y GOsC wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w arferion, prosesau na pholisïau yn ystod y cyfnod adolygu perfformiad ac nid oedd y wybodaeth a oedd ar gael yn peri pryderon am ei berfformiad. Felly, daethom i’r casgliad bod y GOsC wedi dangos ei fod yn parhau i fodloni ein holl Safonau Rheoleiddio Da.

Safonau Cyffredinol: nid yw prosesau yn gosod rhwystrau amhriodol nac fel arall yn rhoi pobl â nodweddion gwarchodedig dan anfantais

Mae gan y GOsC dudalen we benodol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n amlinellu ei ymrwymiad i sicrhau bod ei holl weithgareddau yn darparu cyfle cyfartal. Mae'n darparu cefnogaeth i gynorthwyo unigolion a all fod â dyslecsia neu anghenion eraill i sicrhau bod ei gynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn hygyrch i bawb. Mae'n ofynnol i banel y GOsC ac aelodau staff ddilyn hyfforddiant rheolaidd ar ragfarn a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae prosesau ar waith i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer tystion a chofrestryddion sy’n cymryd rhan yn ei broses addasrwydd i ymarfer. 

Addysg a Hyfforddiant: cynnal ac adolygu safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant

Mae’r GOsC wedi dechrau adolygiad o’i Ganllawiau ar gyfer Addysg Cyn Cofrestru Osteopathig yn sgil cyflwyno’r Safonau Ymarfer Osteopathig diwygiedig, canllawiau ar y ddyletswydd gonestrwydd a ffiniau proffesiynol, a newidiadau i’r broses sicrhau ansawdd ar gyfer cymwysterau cydnabyddedig.

Cofrestru: yn cynnal ac yn cyhoeddi cofrestr gywir

Gweithredodd y GOsC yn gyflym i ymchwilio a chywiro cofnod cofrestr a fethodd ag arddangos y cyfyngiad a osodwyd ar gofrestrai. Ymchwiliodd i'r rhesymau dros y gwall a chyflwynodd gyfres o wiriadau ychwanegol i sicrhau cywirdeb y gofrestr ymhellach.

Addasrwydd i Ymarfer: gall unrhyw un godi pryder am gofrestrai

Comisiynodd y GOsC archwiliad annibynnol o gamau cychwynnol ei broses addasrwydd i ymarfer yn ystod y cyfnod adolygu perfformiad hwn. Yn dilyn canfyddiadau y gellid gwella digonolrwydd y rhesymau ysgrifenedig a ddarparwyd mewn penderfyniadau a wnaed, cyflwynodd y GOsC hyfforddiant arbenigol ar ddrafftio penderfyniadau. Mae'n cynhyrchu Canllawiau cyfunol i Sgrinwyr mewn ymateb i ganfyddiadau'r archwiliad.

Addasrwydd i Ymarfer: yn ceisio gorchmynion interim lle bo'n briodol

Ym mis Hydref 2018, cyflwynodd y GOsC broses ddiwygiedig ar gyfer asesu risg, yn cynnwys ffurflen asesu risg newydd ac adolygiad ar lefel uwch o’r holl achosion y tybir eu bod yn risg uchel. Cwblheir adolygiadau achos wythnosol mewn achosion a nodir fel rhai risg uchel a chaiff pob asesiad risg ei adolygu bob dau fis.

Addasrwydd i Ymarfer: mae pob penderfyniad a wneir yn gymesur, yn gyson ac yn deg

Mewn un apêl i’r Uchel Lys gan gofrestrai yn erbyn penderfyniad Panel y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, roedd y Barnwr yn feirniadol o ddull y Panel o holi’r unigolyn cofrestredig, a oedd yn annheg ym marn y Barnwr ac a wnaeth yr achos yn annheg. Mewn ymateb i’r dyfarniad, cynhaliodd y GOsC hyfforddiant ar reoli a holi tystion a datblygu nodyn ymarfer ar holi mewn gwrandawiadau. Roeddem yn fodlon bod y GOsC wedi cymryd camau rhesymol i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn y dyfarniad.

Safonau Cyffredinol

5

5 allan o 5

Canllawiau a Safonau

2

2 allan o2

Addysg a Hyfforddiant

2

2 allan o 2

Cofrestru

4

4 allan o 4

Addasrwydd i Ymarfer

5

5 allan o 5

Cyfanswm

18

18 allan o 18

Lawrlwythiadau