Adolygu Perfformiad - Cyngor Optegol Cyffredinol 2019/20
31 Mawrth 2021
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Optegol Cyffredinol.
Ystadegau allweddol:
- Yn rheoleiddio ymarfer optometryddion, optegwyr dosbarthu, myfyrwyr a busnesau optegol yn y Deyrnas Unedig
- 28,714 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr (ar 30 Medi 2020)
- Tâl cofrestru blynyddol: £360
Uchafbwyntiau
Mae’r GOC wedi bodloni 16 o’n 18 Safon Rheoleiddio Da. Nid oedd yn bodloni Safon 10 (am y Gofrestr) oherwydd nid oedd yn ymddangos bod ei systemau yn ddigon cadarn i sicrhau mai dim ond pan oedd ganddynt y cymwysterau priodol yr oedd yn ychwanegu pobl at ei gofrestr a bod ataliadau wedi'u nodi'n glir. Methodd y GOC â bodloni Safon 15 hefyd oherwydd ei fod yn dal i gymryd gormod o amser i ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer, er ein bod yn cydnabod ei fod yn dangos ymrwymiad i fynd i’r afael â’i ôl-groniad.
Ymateb y GOC i bandemig Covid-19
Ymatebodd y GOC yn gyflym ac yn adeiladol i’r heriau a berir gan bandemig Covid-19. Cyhoeddodd ganllawiau i gofrestreion a busnesau ar amrywiaeth o bynciau a gafodd dderbyniad da gan lawer o randdeiliaid. Dangosodd ystwythder wrth addasu ei weithgareddau craidd, gan wneud defnydd da o dechnoleg i barhau â’i waith i gymeradwyo a sicrhau ansawdd darparwyr addysg ac i gynnal gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer o bell. Ymgynghorodd y GOC yn gyflym ac yn adeiladol â rhanddeiliaid allweddol wrth iddo wneud y newidiadau hyn, ac mae wedi ymgynghori’n ehangach ac yn fwy trylwyr wrth iddo ystyried gwneud newidiadau tymor hwy.
Safonau Cyffredinol: mae’r rheolydd yn deall amrywiaeth ei gofrestreion, eu cleifion/defnyddwyr gwasanaeth ac yn sicrhau nad yw ei brosesau yn gosod rhwystrau amhriodol nac fel arall yn rhoi pobl â nodweddion gwarchodedig dan anfantais.
Dangosodd y GOC ddealltwriaeth dda o amrywiaeth ei gofrestreion a defnyddiodd hyn i lywio ei waith polisi megis ei Adolygiad Strategol Addysg. Mae’n cydnabod bod mwy i’w wneud, megis cynyddu ei allu i gasglu data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan achwynwyr, ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wella ei berfformiad. Rydym yn annog y GOC i fwrw ymlaen â’r gwaith pwysig hwn.
Cofrestru: yn cynnal ac yn cyhoeddi cofrestr gywir o'r rhai sy'n bodloni ei ofynion gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar eu hymarfer
Mae tri gwall ar wahân, digyswllt ar gofrestr y GOC yn golygu nad yw'r GOC wedi bodloni Safon 10. Ym mhob achos, cymerodd y GOC gamau priodol wedyn i gywiro'r gofrestr a newid ei brosesau. Gyda'i gilydd, fodd bynnag, maent yn nodi nad oedd gan y GOC brosesau digon cadarn yn ystod y cyfnod adolygu perfformiad i sicrhau ei fod ond yn ychwanegu pobl at ei gofrestr pan oedd ganddynt y cymwysterau priodol a bod ataliadau wedi'u nodi'n glir.
Addasrwydd i Ymarfer: mae’r broses ar gyfer archwilio/ymchwilio i achosion yn deg, yn gymesur, yn delio ag achosion mor gyflym ag sy’n gyson â datrysiad teg ac yn sicrhau diogelwch y cyhoedd ar bob cam o’r broses
Dyma’r chweched flwyddyn i’r GOC beidio â bodloni ein Safon o ran amseroldeb a’i amserlenni ar gyfer ymdrin ag achosion o’r fath yw’r hiraf o’r holl reoleiddwyr a oruchwyliwn. Mae’n rhoi cynllun gwella ar waith i fynd i’r afael â’i faterion hirsefydlog, gan gynnwys cyflwyno proses brysbennu newydd i leihau nifer y cwynion sy’n mynd i mewn i’r system addasrwydd i ymarfer yn ddiangen. Mae hefyd yn gweithio i gau ei achosion hŷn, mwy cymhleth. Gan fod y GOC yn dal i gymryd gormod o amser i ddatrys achosion addasrwydd i ymarfer, fe wnaethom benderfynu na fodlonwyd Safon 15.
Bodlonwyd safonau rheoleiddio da:
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
33 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
44 allan o 5
Cyfanswm
1616 allan o 18