Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Awdurdod Safonau Proffesiynol 2020/21

30 Mehefin 2021

Nid oes amheuaeth bod hon wedi bod yn flwyddyn anodd a heriol ac mae ein hamodau gwaith yn parhau i gael eu pennu gan y pandemig.

Er gwaethaf hyn rydym nid yn unig wedi gallu parhau â busnes fel arfer, ond mae 2020/21 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn. Mae uchafbwyntiau allweddol y flwyddyn yn cynnwys:

  • Blwyddyn lawn o weithio gyda'n Safonau Rheoleiddio Da newydd
  • Ymgynghoriad ar sut rydym yn ymdrin â'n hadolygiadau perfformiad
  • Adolygiad strategol o’r rhaglen Cofrestrau Achrededig, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad – gan gasglu bron i 100 o ymatebion
  • Cynhyrchu canllawiau ar gyfer gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer rhithwir
  • Gwirio 2,018 o benderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol a mynd ymlaen i apelio yn erbyn 11 ohonynt
  • Cynnal ein hadolygiad dysgu Covid-19 (cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021)
  • Cyhoeddi dau adroddiad ymchwil a chomisiynu tri adroddiad pellach (cyhoeddwyd yn gynnar yn 2021/22)
  • Paratoi ein hymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar ddiwygio rheoleiddio a gyhoeddwyd tua diwedd 2020/21.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau