Adolygu Perfformiad - Cyngor Optegol Cyffredinol 2020/21
23 Mawrth 2022
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Optegol Cyffredinol.
Ystadegau allweddol
- Yn rheoleiddio ymarfer optometryddion, optegwyr dosbarthu, myfyrwyr a busnesau optegol yn y Deyrnas Unedig
- 28,578 o weithwyr proffesiynol ar ei gofrestr (ar 30 Medi 2021)
- Ffi flynyddol o £360 am gofrestru
Uchafbwyntiau
Mae’r GOC wedi bodloni 17 o’n 18 Safon Rheoleiddio Da. Nid oedd yn bodloni Safon 15 oherwydd ei bod yn dal i gymryd gormod o amser i ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer.
Safonau Cyffredinol: mae’r rheolydd yn deall amrywiaeth ei gofrestreion a’u cleifion a defnyddwyr gwasanaeth ac eraill sy’n rhyngweithio gyda’r rheolydd ac yn sicrhau nad yw ei brosesau yn gosod rhwystrau amhriodol neu fel arall yn rhoi pobl sydd â nodweddion gwarchodedig dan anfantais.
Mae'r GOC yn parhau i ddangos ymrwymiad cryf i EDI. Mae wedi creu cynllun EDI newydd ac wedi penodi Partner EDI i ddarparu cymorth arbenigol. Comisiynodd ymgynghorydd allanol i gynhyrchu Asesiad Effaith Cydraddoldeb manwl ar gyfer ei Adolygiad Strategol Addysg. Mae'r GOC yn parhau i wella ei ddull o gasglu a defnyddio data EDI. Fodd bynnag, mae bylchau o hyd yn y data y mae angen rhoi sylw iddynt; mae angen i'r GOC gasglu data EDI yn ddiofyn pan fydd yn cynnal arolygon ac ymchwil. Ar ôl pwyso a mesur, fodd bynnag, mae'r GOC wedi perfformio'n gryf eto yn y maes hwn.
Addysg a Hyfforddiant: mae’r rheolydd yn cynnal safonau cyfoes ar gyfer addysg a hyfforddiant sy’n cael eu hadolygu’n gyson ac yn blaenoriaethu gofal a diogelwch sy’n canolbwyntio ar y claf a’r defnyddiwr gwasanaeth
Cyrhaeddodd y GOC gyfnod allweddol yn ei waith Adolygiad Strategol Addysg (ESR) yn ystod y cyfnod adolygu hwn. O 1 Mawrth 2021, rhaid i ddarparwyr addysg fodloni set newydd o ofynion er mwyn cael cymeradwyaeth ar gyfer cymwysterau newydd mewn optometreg neu opteg ddosbarthu. Rydym yn cydnabod bod yr ESR wedi bod yn fater dadleuol yn y sector, ac mae barn rhanddeiliaid wedi bod yn gymysg. Fodd bynnag, rydym wedi gweld y GOC yn ceisio adborth gan randdeiliaid ac yn gwrando arno, ac yn gwneud newidiadau i’w gynigion o ganlyniad. Byddwn yn parhau i fonitro cyfnod gweithredu'r rhan hon o'r ESR, yn ogystal â gwaith y GOC i ddiweddaru ei ofynion ar gyfer mynediad arbenigol i'r gofrestr.
Addasrwydd i Ymarfer: mae proses y rheolydd ar gyfer archwilio ac ymchwilio i achosion yn deg, yn gymesur, yn delio ag achosion mor gyflym ag sy’n gyson â datrysiad teg i’r achos ac yn sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael i gefnogi penderfynwyr i ddod i benderfyniad teg sy’n diogelu’r cyhoedd ar bob cam o’r broses
Mae’r GOC yn cydnabod bod angen iddo wella’r cyflymder y mae’n delio ag achosion addasrwydd i ymarfer. Mae wedi gwneud cynnydd o ran gweithredu cynllun gwella ac mae hyn yn dechrau cael effaith wirioneddol. Yn benodol, mae’r GOC wedi lleihau’n sylweddol y mesur amseroldeb o un pen i’r llall eleni, ac wedi gostwng nifer yr achosion agored yn y system. Rydym yn croesawu’r gwelliannau hyn, yn enwedig o ystyried yr heriau parhaus sy’n gysylltiedig â phandemig Covid-19. Fodd bynnag, gan edrych ar draws y cyfnod adolygu cyfan, cymerodd y GOC ormod o amser o hyd i gwblhau ei achosion addasrwydd i ymarfer. Daethom i'r casgliad felly nad oedd Safon 15 wedi'i bodloni.
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
44 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
44 allan o 5
cyfanswm
1717 allan o 18