Adroddiad Monitro - Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal 2021/22
29 Mehefin 2022
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Ystadegau allweddol
- Yn rheoleiddio ymarfer amrywiaeth o broffesiynau iechyd a gofal yn y DU
- 297,515 o weithwyr proffesiynol ar ei gofrestr (ar 31 Mawrth 2022)
- Cost cofrestru yw £180, a delir dros gylchred o ddwy flynedd
Uchafbwyntiau
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod 1 Ionawr 2021 – 31 Mawrth 2022.
Canfyddiadau allweddol
- Mae'r HCPC wedi cyrraedd Safon 3, ein Safon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), eleni. Mae wedi gweithio'n weithredol i gasglu data EDI am ei gofrestryddion gan arwain at gynnydd sylweddol yn lefel y data EDI sydd ganddo. Rydym wedi gweld enghreifftiau o'r gwaith y mae'r HCPC yn ei wneud i hyrwyddo EDI yn fewnol ac yn allanol. Mae gan yr HCPC ymrwymiad clir i EDI.
- Mae’r HCPC wedi gwella ymgysylltiad â chyrff proffesiynol. Cawsom adborth cadarnhaol gan randdeiliaid am barodrwydd yr HCPC i ymgysylltu, cydweithio, a bod yn agored i adborth.
- Ym mis Ionawr 2022, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, gweithredodd yr HCPC ei fodel newydd ar gyfer sicrhau ansawdd darparwyr a rhaglenni addysgol yn llawn. Bwriad gwaith arbenigwr defnyddwyr gwasanaeth o fewn y broses yw sicrhau bod llais y claf yn cael ei ystyried pan wneir penderfyniadau.
- Nid oedd gennym unrhyw bryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i brosesu ceisiadau’r DU i ymuno â’r gofrestr, fodd bynnag ni phrosesodd yr HCPC geisiadau rhyngwladol i ymuno â’r gofrestr yn ddigon cyflym. Gwelodd yr HCPC gynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau a gafodd, ond ni ymatebodd i’r cynnydd mewn ceisiadau rhyngwladol yn effeithiol a chafodd hyn effaith ddifrifol ar ymgeiswyr. Roedd yr amser hir a gymerodd yr adran gofrestru i ateb galwadau ffôn a negeseuon e-bost hefyd yn effeithio ar allu pobl i gael gwybodaeth am gofrestru. Penderfynwyd felly nad oedd Safon Cofrestru 11 wedi'i bodloni.
- Mae’r HCPC wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gyflawni nifer o brosiectau a gynlluniwyd i wella ei brosesau addasrwydd i ymarfer yn dilyn ein pryderon difrifol o’n harchwiliad yn 2020 am ansawdd ac amseroldeb y rhan hon o’i waith. Rydym wedi gweld tystiolaeth o welliant o ran dilyniant achosion a gwneud penderfyniadau. Byddwn yn archwilio’r broses y flwyddyn nesaf ond, er yn cydnabod y gwaith y mae’r HCPC wedi bod yn ei wneud, ni allwn ddweud eto bod y Safonau addasrwydd i ymarfer perthnasol wedi’u bodloni.
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
33 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
11 allan o 5
cyfanswm
1313 allan o 18