Adroddiad Monitro - Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2021/22
26 Medi 2022
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
Ystadegau allweddol
- Yn rheoleiddio ymarfer nyrsys a bydwragedd yn y DU a chymdeithion nyrsio yn Lloegr
- 760,444 o weithwyr proffesiynol ar y gofrestr (ar 30 Mehefin 2022)
- Tâl cofrestru blynyddol: £120 i bob unigolyn cofrestredig
Uchafbwyntiau
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2022.
Canfyddiadau Allweddol
- Nid yw’r NMC wedi bodloni Safon 15 eto eleni, oherwydd ei bod yn dal i gymryd gormod o amser i gwblhau achosion addasrwydd i ymarfer. Mae clirio’r ôl-groniad yn flaenoriaeth i’r NMC: mae wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith ac wedi cyhoeddi adroddiadau cynnydd rheolaidd i’w Gyngor. Ond canlyniadau cymysg a gafodd y cynllun gweithredu eleni, ac mae ôl-groniad o hyd.
- Datblygodd yr NMC gynllun gweithredu EDI ar gyfer 2022-25. Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi canfyddiadau ymchwil i wahaniaethau ym mhrofiadau pobl o brosesau'r NMC sy'n gysylltiedig â nodweddion gwahanol, ac i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw annhegwch.
- Mae’r NMC yn parhau i ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid. Cawsom adborth cadarnhaol gan sawl sefydliad ynghylch sut mae’r NMC wedi ymgysylltu â nhw. Hefyd lansiodd ei Fforwm Llais y Cyhoedd eleni.
- Lansiodd yr NMC adolygiad o’i safonau addysg cyn cofrestru. Mae’r adolygiad yn cynnwys dysgu o’r newidiadau a wnaeth i’w ofynion mewn ymateb i’r pandemig.
- Mae’r NMC wedi cymryd camau i wella tryloywder ei broses apeliadau cofrestru. Cyflwynodd broses i adolygu a sicrhau ansawdd penderfyniadau Cofrestryddion Cynorthwyol, a chyhoeddodd wybodaeth wedi'i diweddaru am y broses apelio.
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
44 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
44 allan o 5
cyfanswm
1717 allan o 18