Adolygu perfformiad: gwerthusiad o flwyddyn un y dull newydd
05 Hydref 2023
Yn gyffredinol, rydym yn ystyried bod blwyddyn gyntaf y broses newydd yn llwyddiannus. Rydym wedi cyflawni bron pob un o’r manteision allweddol, neu’n rhannol, er ei bod yn rhy gynnar i ddweud i ba raddau yr ydym wedi llwyddo i leihau baich cyffredinol y broses. Nid yw’r risgiau allweddol, hyd y gallwn ddweud, wedi dod i’r amlwg i’r graddau na allem eu lliniaru.