Prif gynnwys

Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU

Ewch i'r wefan: http://www.ukphr.org/

Mae Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn gweithredu cofrestr wirfoddol ar gyfer arbenigwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd. Mae'n cynnal ac yn sicrhau'r safonau proffesiynol ar gyfer cymhwysedd sy'n ofynnol i weithio yn y maes hwn.

Mae UKPHR yn diogelu’r cyhoedd drwy sicrhau mai dim ond gweithwyr proffesiynol cymwys ym maes iechyd y cyhoedd sydd wedi’u cofrestru a bod safonau ymarfer uchel yn cael eu cynnal.

Ym mis Ebrill 2024 cyhoeddwyd ein hasesiad adnewyddu llawn o'r UKPHR.

Fel rhan o'r broses adnewyddu, fe wnaethom gyhoeddi dau Amod i UKPHR eu bodloni, gyda therfynau amser ar gyfer eu gweithredu. Canfu ein hadolygiad dilynol, a gwblhawyd ym mis Mawrth 2025, fod y ddau Amod wedi'u bodloni. O ganlyniad, mae'r holl Safonau'n parhau i gael eu bodloni, ac mae achrediad UKPHR yn parhau i fod wedi'i gadarnhau'n llawn heb unrhyw amodau heb eu bodloni.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad yma.