Achosion diweddar

Mae'r rheolyddion yn anfon yr holl benderfyniadau a wneir gan eu paneli addasrwydd i ymarfer terfynol atom. Rydym yn darllen y penderfyniadau ac os oes gennym bryder, gofynnwn am gopïau o'r holl dystiolaeth. Os byddwn yn parhau i bryderu gallwn gynnal cyfarfod achos gyda'n cyfreithwyr i benderfynu a ddylid cyfeirio'r achos i'r Llys.

Dim ond os nad oes unrhyw fodd effeithiol arall o ddiogelu'r cyhoedd y byddwn yn cyfeirio penderfyniadau i'r Llys. Gwerth ein hadolygiad o benderfyniadau terfynol yw ei fod yn helpu i wella ansawdd cyffredinol prosesau'r rheolyddion a'r penderfyniadau a wneir gan eu paneli a'u pwyllgorau. Daw ein pŵer i atgyfeirio penderfyniadau i’r Llys o Adran 29 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

Rydym yn hyrwyddo arfer da ar draws y rheolyddion mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys rhannu gyda nhw y 'pwyntiau dysgu' yr ydym yn eu nodi o'r holl benderfyniadau a adolygwn. Gallwch ddarllen isod achosion yr ydym wedi’u hystyried yn ddiweddar mewn cyfarfodydd achos Adran 29 ond nad ydym wedi’u cyfeirio at y Llys.

Achosion diweddar gan y rheolydd

Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol

 Nid oes nodiadau cyfarfod achos diweddar ar gael yn ystod y cyfnod hwn

Cyngor Deintyddol Cyffredinol

 Nid oes nodiadau cyfarfod achos diweddar ar gael yn ystod y cyfnod hwn

Cyngor Meddygol Cyffredinol

Cyngor Optegol Cyffredinol

 Nid oes nodiadau cyfarfod achos diweddar ar gael yn ystod y cyfnod hwn

Cyngor Osteopathig Cyffredinol

 Nid oes nodiadau cyfarfod achos diweddar ar gael yn ystod y cyfnod hwn

Cyngor Fferyllol Cyffredinol

Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon

Nid oes nodiadau cyfarfod achos diweddar ar gael yn ystod y cyfnod hwn

Gwaith Cymdeithasol Lloegr