Moeseg mewn cyfnod rhyfeddol - profiadau ymarferwyr yn ystod y pandemig

18 Mehefin 2021

Comisiynwyd yr Athro Deborah Bowman gennym i wneud ymchwil. Canlyniad yw’r adroddiad hwn ac mae’n disgrifio sut y gwnaeth y pandemig siapio a newid profiadau moesegol ymarferwyr

Pam y gwnaethom gomisiynu’r ymchwil hwn?

Fe wnaethom gomisiynu’r Athro Bowman i gynnal ymchwil i archwilio profiadau moesegol ymarferwyr sy’n gweithio yn y proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19.

Sut cynhaliwyd yr ymchwil?

Roedd y dulliau ymchwil yn cynnwys adolygiad cwmpasu o lenyddiaeth, cyfweliadau a grwpiau ffocws a gynhaliwyd gydag ymarferwyr o ystod o broffesiynau.

Beth mae'r ymchwil yn ei ddatgelu?

Mae'r ymchwil hwn yn cyflwyno darlun o arlliw a chymhlethdod. Mae profiadau moesegol ymarferwyr ar draws y proffesiynau wedi cymryd effaith bersonol a systemig sylweddol a bydd yn llywio profiadau ymarferwyr a chleifion am flynyddoedd i ddod. Daw’r adroddiad i’r casgliad bod yr ymchwil hwn yn awgrymu ei bod yn bryd meddwl am foeseg a mynd ati mewn ffordd wahanol sydd wedi’i seilio ar brofiad ymarferwyr ac sy’n canolbwyntio ar feithrin hyder a gallu moesegol. Yn benodol, drwy ganolbwyntio ar drallod moesol, moeseg gofal, rôl barn a ffyrdd ymarferol o ddarparu cymorth moesegol, bydd dysgu o’r pandemig yn seiliedig ar yr hyn a brofwyd ac sydd â photensial sylweddol.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i reoleiddwyr, ond hefyd y rhai sydd â diddordeb mewn arfer moesegol. Mae’r argymhellion hynny’n adlewyrchu canfyddiadau’r ymchwil hwn ac yn gwahodd myfyrio, cydweithio, dysgu a datblygu er budd gweithwyr proffesiynol a chleifion.

Darllenwch fwy ynghylch pam y comisiynwyd yr ymchwil hwn ym mlog Douglas Bilton , sy'n manylu ar y syniad o reoleiddio perthynol.

Lawrlwythiadau