Adolygiad o ymchwil i reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal
28 Gorffennaf 2020
Fe wnaethom gomisiynu Prifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad o ymchwil i reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal ers 2011
Cefndir
Roeddem yn meddwl ei bod yn bryd adolygu ymchwil i reoleiddio iechyd a gofal proffesiynol. Mae’r 10 mlynedd diwethaf wedi gweld newidiadau digynsail yn y ffordd y caiff proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU eu rheoleiddio, gyda newidiadau mewn diwylliant, darpariaeth, agweddau’r cyhoedd, a ffactorau cymdeithasol a demograffig i gyd yn effeithio ar reoleiddwyr a phroffesiynau a reoleiddir. Fe wnaethom gomisiynu Uned Ymchwil a Gwerthuso mewn Addysg Feddygol a Deintyddol Prifysgol Caerdydd i ymchwilio i'r llenyddiaeth sydd ar gael.
Ym mis Ionawr eleni fe wnaethom gomisiynu tîm annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad o’r ymchwil i reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal ers 2011.
Beth oedd pwrpas yr ymchwil?
Y tri amcan allweddol ar gyfer yr ymchwil hwn oedd:
- Dod o hyd i ymchwil ym maes rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal yn Saesneg ers 2011;
- Gwerthuso'r ymchwil a thynnu allan yr hyn y mae wedi'i ddysgu i ni; a
- Nodi unrhyw fylchau yn yr ymchwil a meysydd a fyddai'n elwa o archwilio'n ddyfnach er mwyn llywio ffocws ymchwil bellach a pharhau i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal.
Sut cafodd ei gynnal?
Yn ogystal â chraidd eu gwaith – asesiad cyflym o dystiolaeth o’r llenyddiaeth gyhoeddedig – cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfweliadau â’n cysylltiadau ymchwil a pholisi allweddol yn y rheolyddion, yn ogystal ag adolygu eu gwefannau.
Canfyddiadau allweddol
O ran yr hyn y mae’r llenyddiaeth wedi’i ddysgu i ni, mae’r themâu allweddol wedi’u grwpio’n chwe maes, gan gynnwys Addysg a Hyfforddiant ac Atal Niwed a Diogelwch Cleifion. Canfyddiad cyffredinol cryf sy’n dod i’r amlwg o’r gwaith yw – tra bod astudiaethau rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal yn prysur ddod i’r amlwg fel maes newydd – ei fod yn dal i fod yn llai datblygedig o gymharu â meysydd eraill, megis astudiaethau ariannol, cyfreithiol neu reoleiddio hedfan.