Drwy ddadansoddi miloedd o benderfyniadau addasrwydd i ymarfer, mae’r astudiaeth arloesol hon yn rhoi cipolwg ar gamymddwyn proffesiynol gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.
Bu tîm o Brifysgol Coventry dan arweiniad yr Athro Rosalind Searle yn dadansoddi dros 6,700 o benderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol. Defnyddiwyd y data i nodi tri math gwahanol o gyflawnwr yn ogystal â darparu mewnwelediad i gamymddwyn rhywiol ac anonestrwydd gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.