Ymchwil i agweddau at ymddygiad anonest gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol
20 Mehefin 2016
Fe wnaethom gomisiynu ymchwil i archwilio safbwyntiau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol tuag at ymddygiad anonest gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mehefin 2016.
Crynodeb
Mae’r ymchwil hwn, a gynhaliwyd gan yr asiantaeth ymchwil annibynnol Policis, yn edrych ar agweddau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol tuag at ymddygiad anonest gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddulliau ansoddol i archwilio ymatebion i nifer o senarios yn seiliedig ar achosion bywyd go iawn o anonestrwydd proffesiynol.
Comisiynasom y prosiect hwn i archwilio barn y cyhoedd a phroffesiynol ar y mathau hyn o achosion. Mewn llawer o’r penderfyniadau am ymarferwyr yr ydym yn eu hadolygu ac yn mynd ymlaen i apelio yn eu cylch, canfyddwn nad yw anonestrwydd wedi’i ystyried yn briodol.