Adolygiad cost effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rheolyddion gweithwyr iechyd proffesiynol
14 Tachwedd 2012
Tachwedd 2012 cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Pam wnaethom ni'r gwaith hwn?
Yn 2011, gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol i ni roi cyngor ar gost effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rheolyddion gweithwyr iechyd. Tynnwyd sylw at y mater hwn ym Mhapur Gorchymyn y Llywodraeth ar reoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol, a oedd yn nodi: 'Mae gan rai rheolyddion ymagweddau mwy darbodus a mwy di-fusnes at agweddau ar eu gwaith. Mae rhai yn gwneud mwy o ddefnydd o gyngor cyfreithiol yn eu gweithrediadau addasrwydd i ymarfer….. Mae'r amrywiadau hyn yn adlewyrchu'n rhannol y gwahanol fframweithiau cyfreithiol ar gyfer pob un o'r rheolyddion, ond mae'n debygol y bydd lle i lawer mwy o effeithlonrwydd yn yr holl gyrff rheoleiddio.'
Gofynnwyd i ni:
- Adolygu'r sgôp ar gyfer gwella cost-effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd pob rheolydd
- Nodi lle y gellid gwneud gostyngiadau sylweddol mewn costau dros y tair blynedd nesaf
- Nodi cyngor ar flaenoriaeth y diwygiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau mwy o gost-effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ar draws y cyrff rheoleiddio.
Cyflwynwyd ein cyngor ym mis Tachwedd 2012. Cyhoeddir dadansoddiad ategol gan Ganolfan Economeg a Threfniadaeth y Gwasanaeth Iechyd ochr yn ochr â'n hadroddiad terfynol a'n hasesiad cryno o gynigion rheoleiddwyr ar gyfer newidiadau i'w deddfwriaeth trwy orchymyn Adran 60.
Ein hargymhellion
Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar arfer da i reoleiddwyr wrth ddangos gweithio cost-effeithiol ac effeithlon. Rydym yn cynghori’r Adran Iechyd i fwrw ymlaen â gorchymyn adran 60 (neu newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol) i ganiatáu ar gyfer mabwysiadu arfer da yn ehangach ar draws cyrff rheoleiddio. Rydym hefyd yn argymell bod yr ymarfer hwn yn cael ei ailadrodd ymhen dwy flynedd, er mwyn cynnal y ffocws ar weithrediadau cost-effeithiol ac i ganiatáu gwerthuso effaith gweithgareddau gwella presennol. Yn olaf, rydym wedi nodi rhai materion y gallai adolygiad symleiddio a deddfwriaeth ddrafft Comisiwn y Gyfraith ymdrin â hwy yn ddefnyddiol.