Gwahoddiad i dendro i gynnal ymchwil i'r rhwystrau a'r galluogwyr i wneud cwyn i reoleiddiwr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol

21 Hydref 2024

Fel rhan o'n gwaith i amddiffyn y cyhoedd rydym yn cynnal ac yn comisiynu ymchwil i ddatblygu ein syniadau ynghylch sut y gellid gwella rheoleiddio, a gwaith y rheolyddion a'r cofrestrau a oruchwyliwn.

Rydym nawr yn gwahodd tendrau i gynnal ymchwil i'r rhwystrau a'r galluogwyr i wneud cwyn i reoleiddiwr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol neu gofrestr achrededig. Bydd yr ymchwil yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ynghylch yr heriau o wneud cwyn am weithiwr iechyd neu ofal proffesiynol, gyda'r nod o gefnogi rheolyddion a chofrestrau i wneud gwelliannau diriaethol i'w prosesau. Bydd yr ymchwil yn archwilio safbwyntiau a phrofiadau ystod amrywiol o bobl sydd wedi codi pryder, a heb fod wedi codi pryder. Yn ogystal ag archwilio'r rhwystrau a wynebir wrth godi pryder, dylai'r adroddiad ymchwil terfynol gynnwys argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r broses a hygyrchedd codi pryder gyda rheoleiddiwr neu gofrestr.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion yw 5pm ar 8 Tachwedd 2024

Darllenwch y ddogfen dendro lawn am ragor o fanylion. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â polly.rossetti@professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion