Ailfeddwl am reoleiddio
03 Hydref 2016
Ein cynigion ar gyfer trawsnewid y broses o reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016.
Cefndir
Wrth ailfeddwl ynghylch Rheoleiddio mae'r Awdurdod yn nodi ei gynigion ar gyfer trawsnewid y ffordd y caiff gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eu rheoleiddio, gan awgrymu sut y gallai'r syniadau yn ei bapur cynharach Ailfeddwl am reoleiddio roi ar waith. Mae'r cynigion yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiogelu'r cyhoedd a chyfrifoldeb proffesiynol. Eu bwriad yw creu eglurder i gleifion, a chaniatáu mwy o hyblygrwydd o ran dull gweithredu i reoleiddwyr, cyflogwyr, llunwyr polisi ac eraill sy'n llywio'r gweithlu.
Y cynigion
Mae'r cyhoedd yn aml yn gweld y system reoleiddio yn ddryslyd ac yn anodd ei llywio, yn enwedig pan fydd ganddynt bryder neu gŵyn ac am roi gwybod amdano yn y ffordd gywir; mae'n hawdd camddeall rôl y rheolydd. Mae'n rhaid i gyflogwyr ymgysylltu â rheolyddion lluosog er mwyn gwirio cofrestriad eu gweithwyr, adrodd am bryderon a chefnogi ail-ddilysu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae pobl mewn timau amlddisgyblaethol yn gweithio i safonau gwahanol a gallant fod yn destun penderfyniadau gwahanol gan reoleiddwyr gwahanol ar gyfer yr un digwyddiadau neu ddigwyddiadau tebyg y mae ganddynt gyfrifoldeb unigol a rennir amdanynt.
Gallant fod yn destun cosbau gwahanol y mae cleifion, cyflogwyr a chofrestryddion yn ei chael yn anodd eu cysoni. Mae addysgwyr hefyd yn cael eu heffeithio gan reoleiddwyr lluosog gyda gwahanol safonau a mecanweithiau sicrhau ansawdd. Gall hyn lesteirio eu gallu i hyfforddi ymarferwyr sy'n canolbwyntio ar anghenion cleifion, gyda gwerthoedd a rennir, ac sy'n gallu gweithio ar draws ffiniau proffesiynol o fewn iechyd a gofal. Gall rolau a swyddogaethau tîm newid wrth i anghenion y boblogaeth, arloesiadau technolegol neu ofynion gwasanaeth newid.
Gallai’r rhai sy’n ymdrechu i ailgynllunio’r modd y darperir gwasanaethau, integreiddio gofal, neu gyflwyno arferion gwaith newydd fod yn rhwystredig ac yn cael eu hoedi gan yr anawsterau sy’n gynhenid wrth ystwytho cwmpas ymarfer neu greu rolau newydd, oherwydd teitlau gwarchodedig a diogelu ffiniau gan broffesiynau penodol. Mae'r rhai sy'n ceisio sicrhau newid hefyd yn ceisio sicrwydd annibynnol ynghylch safonau a chymwyseddau'r rhai nad ydynt yn ddarostyngedig i reoleiddio proffesiynol statudol. Cyfeirir at reoleiddio’n aml fel rhwystr i arloesi, er nad yw hynny’n wir bob amser, tra dylai ei safbwynt fod yn un o alluogi newid i arferion a rolau hyblyg yn y gweithlu.
Bwriad ein cynigion yw cefnogi cyflawniad uchelgeisiau’r Golwg Pum Mlynedd Ymlaen, a chynlluniau eraill ar gyfer newid y gweithlu a gwasanaethau ledled y DU. Yn benodol, gallai’r hyblygrwydd a gynigiwn fod o werth yn y trafodaethau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd am rolau newydd yn y GIG, megis meddygon cyswllt a chymdeithion nyrsio ac ynghylch rôl rheoleiddio ym Mhartneriaeth Strategol ddatganoledig Iechyd a Gofal Cymdeithasol Manceinion Fwyaf. Mae prosesau addasrwydd i ymarfer yn hir ac yn gostus yn ariannol ac yn bersonol. Gall natur wrthdrawiadol achosion a'r straen y mae gwrandawiadau yn ei achosi effeithio ar iechyd a lles pawb dan sylw. Mae’r dull sy’n gynhenid yn ein trefniadau addasrwydd i ymarfer presennol yn mynd yn groes i’n dealltwriaeth gynyddol o’r sefyllfaoedd lle mae pethau’n mynd o chwith, a’r rhyng-gysylltiadau rhwng y gweithle, arweinyddiaeth, diwylliant, systemau, ffactorau dynol ac ymddygiad dynol. Byddai’n well gan reoleiddwyr symud eu ffocws a’u gwariant, fel y mae nifer yn ceisio’i wneud yn awr, tuag at atal niwed a chynnal safonau, gan adeiladu ar y mewnwelediadau hyn i gyflawni mwy o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, a lleihau niwed i gleifion.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod.