Adroddiad Monitro - Cyngor Deintyddol Cyffredinol 2022/23

15 Rhagfyr 2023

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC).

Ystadegau allweddol

  • Mae’r GDC yn rheoleiddio gweithwyr deintyddol proffesiynol yn y DU
  • 117,983 o weithwyr deintyddol proffesiynol ar y gofrestr ar 30 Medi 2023

Canfyddiadau allweddol

Ni chyflawnodd y GDC Safon 11 oherwydd ei bod yn cymryd gormod o amser i gofrestru deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol.

Ni chyflawnodd y GDC Safon 15 oherwydd ei fod yn cymryd gormod o amser i ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer.

Ailddechreuodd y GDC y broses Ceisiadau Rhestr Arbenigwyr a Aseswyd a oedd wedi’i gohirio ers mis Mawrth 2022.

Treblodd y GDC nifer y lleoedd ar gyfer Rhan 1 yr Arholiad Cofrestru Tramor eleni ac mae’n bwriadu cynnal y niferoedd hyn ar gyfer eisteddiadau yn 2024. Mae hefyd yn bwriadu cynyddu nifer eisteddiadau Rhan 2 o dri i bedwar yn 2024.

Mae’r GDC a phartneriaid wedi bod yn adolygu pob un o’r 13 cwricwla ar gyfer hyfforddiant arbenigol deintyddol ers 2015 a chyhoeddwyd y diwygiadau terfynol eleni. Daw'r 13 arbenigedd i rym ar gyfer pob hyfforddai arbenigol o fis Medi 2024.

CDC 2022/23 Safonau Rheoleiddio Da wedi'u bodloni

Safonau Cyffredinol

5

5 allan o 5

Canllawiau a Safonau

2

2 allan o 2

Addysg a Hyfforddiant

2

2 allan o 2

Cofrestru

3

3 allan o 4

Addasrwydd i Ymarfer

4

4 allan o 5

Cyfanswm

16

16 allan o 18

Lawrlwythiadau