Adroddiad Monitro - Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon 2021/22
16 Mawrth 2023
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI).
Ystadegau allweddol
- Mae’r PSNI yn rheoleiddio ymarfer fferyllwyr a hefyd yn cofrestru safleoedd fferyllol yng Ngogledd Iwerddon
- Roedd 2,962 o weithwyr fferyllol proffesiynol ar y gofrestr; 554 o fferyllfeydd (ar 31 Rhagfyr 2022)
Canfyddiadau allweddol
Mae'n bleser gennym adrodd bod y PSNI wedi bodloni'r holl Safonau eleni. Cymerodd gamau i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r pryderon a adroddwyd gennym y llynedd am ei broses addasrwydd i ymarfer a pharhaodd i symud ymchwiliadau yn eu blaenau mewn modd amserol, heb unrhyw bryderon wedi’u nodi am ansawdd ei ymchwiliadau.
Gwellodd y PSNI dryloywder a hygyrchedd ei waith trwy gyhoeddi mwy o wybodaeth ar ei wefan, gan gynnwys canfyddiadau ei arolwg cydraddoldeb ac amrywiaeth blynyddol o gofrestreion. Defnyddiodd hefyd ffyrdd newydd o roi cyhoeddusrwydd i'r arolwg.
Parhaodd y PSNI i weithredu'r diwygiadau addysg ar gyfer fferyllwyr. Hon oedd blwyddyn gyntaf y Flwyddyn Hyfforddiant Sylfaen (FTY) newydd a'r Asesiad Cofrestru Cyffredin (CRA). Nid oedd gennym unrhyw bryderon ynghylch gweithredu'r FTY. Profodd nifer fach o ymgeiswyr a safodd y CRA ym mis Mehefin 2022 oedi ond cynhaliwyd dau eisteddiad arall yn ystod y cyfnod adolygu heb ddigwyddiad. Byddwn yn parhau i fonitro'r CRA i sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithiol.
Rydym hefyd yn annog y PSNI i ailystyried ei benderfyniadau i beidio â chasglu data amrywiaeth am aelodau ei Gyngor ac i beidio â chyhoeddi ei ddehongliad o bwerau ei Bwyllgor Statudol i ymestyn Gorchmynion Amodau Ymarfer mewn gwrandawiadau adolygu.
PSNI 2021/22 Safonau Rheoleiddio Da wedi'u bodloni
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
44 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
55 allan o 5
Cyfanswm
1818 allan o 18