Rydym eisiau gwybod am eich profiadau gyda rheolyddion iechyd a gofal cymdeithasol a Chofrestrau Achrededig. Mae eich adborth yn ein helpu i ddeall pa mor dda y maent yn amddiffyn y cyhoedd.
Cam pwysig wrth benderfynu a ddylid achredu cofrestr newydd yw gofyn i bobl rannu eu barn ar y gofrestr.
Bob blwyddyn, rydym hefyd yn gwirio pa mor dda y mae'r cofrestrau sydd â'n hachrediad yn ogystal â'r rheolyddion a oruchwyliwn yn gwneud eu gwaith. Edrychwn ar wahanol fathau o wybodaeth, gan gynnwys yr hyn a ddywedwch wrthym. Mae eich straeon - da neu ddrwg - yn ein helpu i weld y darlun llawn.
Pan fyddwch yn rhannu eich profiad:
- rydych yn helpu i wella rheoleiddio iechyd a gofal
- defnyddir y wybodaeth i nodi beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei newid
- gall y rheolyddion a Chofrestrau Achrededig ddefnyddio'r wybodaeth hon i wella sut maent yn gweithio.
Rydym yn cyhoeddi adroddiad perfformiad neu asesiad blynyddol am bob sefydliad rydym yn ei oruchwylio. Os byddwch yn rhannu gwybodaeth â ni, gallwn anfon copi o'r adroddiad hwnnw atoch os gofynnwch inni. Efallai na fyddwn yn sôn am eich stori benodol yn yr adroddiad, ond rydym yn ei chymryd i ystyriaeth. Nid oes gennym y pŵer i ymyrryd mewn, nac ymchwilio, i gwynion unigol a wneir i reoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig. Felly, nid proses gwyno yw hon, ond gallwch helpu eraill drwy rannu eich profiad.
Rydym yn deall y gall disgrifio eich profiad iechyd neu ofal cymdeithasol eich hun, neu rywun annwyl, fod yn broses emosiynol, felly bydd yr holl wybodaeth a rennir yn cael ei thrin yn barchus ac yn gyfrinachol.