Materion Y Tu Hwnt i'n Hawdurdodaeth
Nid oes gennym unrhyw bwerau i edrych ar benderfyniadau a wneir gan aelod o staff rheolydd yng nghamau cychwynnol proses addasrwydd i ymarfer y rheolyddion. Nid oes gennym y pŵer i adolygu na herio’r penderfyniadau cychwynnol hyn, ac nid oes gennym ychwaith y pŵer i ofyn i’r rheolydd agor yr achos eto nac i roi esboniad am eu penderfyniad.
Gallech (hefyd) ofyn am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad a wnaed gan y rheolydd. Fodd bynnag, ni allwn roi cyngor i chi am y camau hyn a dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn cymryd y cam hwn.
Rydym yn ymwybodol y gall adolygiad barnwrol fod yn broses gostus a’i fod hefyd yn un sydd wedi’i rhwymo gan derfynau amser llym: y terfyn amser arferol yw tri mis o ddyddiad herio’r penderfyniad cychwynnol. Efallai y bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol [RC1] yn gallu rhoi gwybodaeth i chi [BA2] .
Dolen i wefan CAB
Y broblem gyda hyn yw ei fod wedi'i gyfeirio at gynulleidfa benodol, ac felly efallai y bydd lle ar wahân i'r wybodaeth hon ar y wefan.