Sut ydyn ni'n cynnal ein hadolygiadau?
Darllenwch ein canllaw byr sy'n rhoi trosolwg o'n proses adolygu. Yn y bôn, dros gyfnod o 12 mis, rydym yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth ar gyfer pob rheolydd i weld a ydynt wedi bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da . Mae’r Safonau’n disgrifio’r canlyniadau yr ydym yn disgwyl i reoleiddwyr eu cyflawni ar gyfer eu pedair swyddogaeth reoleiddiol: canllawiau a safonau, addysg a hyfforddiant, cofrestru, ac addasrwydd i ymarfer, yn ogystal â set o safonau cyffredinol.
Rydym wedi newid ein proses adolygu yn ddiweddar, gan symud o adolygiadau blynyddol i gylch tair blynedd. Mae hyn yn cynrychioli ymagwedd fwy targedig lle rydym yn adolygu rheolydd yn fanwl unwaith bob tair blynedd ('adolygiad cyfnodol'). Yn ystod dwy flynedd arall y cylch, rydym yn parhau i fonitro gwaith y rheolydd, ynghyd ag unrhyw bryderon sydd gennym a risgiau sy'n dod i'r amlwg. Yn ystod haf 2023, gwnaethom werthuso llwyddiant blwyddyn gyntaf y dull newydd o adolygu perfformiad. Mae adroddiad y gwerthusiad i'w weld yma .
Gallwch ddysgu mwy am y Safonau Rheoleiddio Da yn ogystal â'r dystiolaeth yr ydym yn edrych arni fel rhan o'n proses adolygu.
Ym mis Mai 2023, gwnaethom ddiweddaru ein disgwyliadau ar gyfer rheolyddion mewn perthynas â’n Safon cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Roedd hyn yn cynnwys datblygu fframwaith tystiolaeth newydd a chanllawiau ategol i reoleiddwyr , a fydd yn berthnasol o 2023/24 i 2025/26.
Gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiadau diweddaraf gyferbyn neu ddod o hyd iddynt i gyd ar ein tudalen adroddiadau adolygu perfformiad .
Mae'n bwysig i ni glywed gan bobl am sut mae'r rheolyddion yn perfformio - unigolion a sefydliadau fel ei gilydd. Os oes gennych unrhyw brofiad o gysylltu neu weithio gyda rheolydd, rhannwch hwn gyda ni. Gall eich adborth ein helpu i ofyn y cwestiynau cywir i’r rheolyddion a rhoi gwybod i ni am risgiau na fyddem yn ymwybodol ohonynt fel arall. Darganfyddwch fwy yma .