Astudiaeth achos: Gwaith polisi ac ymchwil PSA ar waith
“Dydw i ddim yn teimlo bod pa bynnag gorff a wnaeth y penderfyniad hwnnw yn edrych allan am y cyhoedd yno. Byddwn yn meddwl bod hynny’n fwy o’i blaid ef, yn hytrach nag o blaid unrhyw ddarpar gleifion, felly rwy’n teimlo’n ddig iawn gan y penderfyniad hwnnw.” Cyfranogwr cyhoeddus yn yr ymchwil
Cefndir
Mae camymddwyn rhywiol gan weithiwr iechyd proffesiynol yn weithred gymharol brin ond dinistriol. Mae'r rhan fwyaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio gydag ymroddiad ac uniondeb ac maent wedi ymrwymo i'r gofal cleifion gorau posibl. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi torri ffiniau rhywiol yn ddifrifol gyda chleifion, gofalwyr neu gydweithwyr gan arwain at niwed difrifol. Fe wnaethom nodi tuedd sy’n peri pryder fel rhan o’n gwaith craffu ar benderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol – roedd paneli’n trin camymddwyn rhywiol rhwng cydweithwyr yn llai difrifol na chroesi ffiniau rhywiol gyda chleifion. Felly byddai eu paneli addasrwydd i ymarfer yn rhoi sancsiynau llai difrifol. Fe wnaethom apelio yn erbyn tri o'r mathau hyn o achos a cholli'r tri. Roeddem am ddarganfod a oedd gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn rhannu ein pryder, felly comisiynwyd ymchwil annibynnol gennym.
Nodweddion pryderus
Roedd yr achosion a welsom yn amrywio o gamymddwyn neu ymosodiad rhywiol difrifol i lefel is o aflonyddu a thorri ffiniau posibl. Byddai'r achosion hyn weithiau hefyd yn cynnwys anghydbwysedd pŵer rhwng cydweithwyr neu gamddefnyddio perthynas oruchwyliol.
Beth yw barn cleifion a gweithwyr proffesiynol?
Archwiliodd yr ymchwil farn gyhoeddus a phroffesiynol gan ddefnyddio senarios yn seiliedig ar achosion go iawn, ac amlygodd farn cyfranogwyr ar sut y gall y math hwn o ymddygiad gael effaith negyddol ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd eu gofal:
- gall dynnu sylw at broblemau a chymhellion agwedd dwfn - gan gynnwys diffyg empathi a allai achosi risg i gleifion
- gall fod effeithiau ehangach o ymddygiad croesi ffiniau, gan gynnwys yr effaith a gaiff ar y cydweithiwr sy’n destun iddo (straen, gwrthdyniad, pryder)
- gall greu diwylliant lle mae ymddygiad croesi ffiniau yn dod yn dderbyniol (gan greu amgylcheddau gwaith gwenwynig o bosibl lle caiff bwlio ei normaleiddio)
- gall effeithio ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol lle mae ymddygiad o'r fath yn cael ei dystio neu ei glywed.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae’r ymchwil wedi’i lledaenu’n eang ymhlith rhanddeiliaid rheoleiddiol a chyfreithiol a gobeithiwn y bydd yn adnodd gwerthfawr i baneli rheoleiddio wrth iddynt feddwl am achosion o’r natur hon. Roedd yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar fater a all effeithio ar ddiogelwch cleifion ac nad oedd yn cael ei ystyried mor ddifrifol ag y dylai fod. Yn dilyn ei gyhoeddi, trefnwyd seminar yn yr Alban ac rydym hefyd wedi ariannu gwaith pellach gan yr Athro Rosalind Searle, gan ddefnyddio achosion o gamymddwyn rhywiol profedig o'n cronfa ddata addasrwydd i ymarfer.