Prif gynnwys
Diweddariad ar bresenoldeb PSA ar X
19 Mawrth 2025
Rydym wedi adolygu’r sianeli cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwn a’r wybodaeth rydym yn ei rhannu arnynt. Ein nod cyffredinol wrth ddefnyddio'r sianeli hyn yw codi ymwybyddiaeth o'n gweithgareddau ac ymgysylltu'n gadarnhaol â phobl sydd â diddordeb yn ein gwaith.
Mae'r PSA yn gweithio i amddiffyn y cyhoedd a chredwn fod amgylcheddau amrywiol a chynhwysol yn bwysig i'r nod hwn. Rydym wedi bod yn bryderus ynghylch y cynnydd mewn ymddygiad gwahaniaethol a ddangosir ar X, nad yw'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Credwn y gallwn ymgysylltu â phobl yn fwy effeithiol gan ddefnyddio sianeli eraill.
O hyn ymlaen, byddwn ond yn defnyddio ein sianel X i rannu ffyrdd i bobl roi adborth i ni ar ein gwaith, ac i roi gwybod i bobl am benderfyniadau allweddol am berfformiad y rheolyddion a’r Cofrestrau Achrededig rydym yn eu goruchwylio. Bydd hyn yn caniatáu inni aros yn agored i fewnbwn adeiladol gan bawb yr effeithir arnynt gan yr hyn a wnawn.
Byddwn yn monitro effaith y newid hwn wrth i ni barhau i adolygu ein penderfyniad.
Ymwelwch â'n:
Mae gennym hefyd gyfrif newydd ar:
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael mwy o'n diweddariadau diweddaraf a ffyrdd ychwanegol o gysylltu â ni.
Cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr chwarterol