Prif gynnwys
Cyhoeddi canllawiau Cadw'n Ddiogel rhag Hunanladdiad GIG Lloegr
04 Ebrill 2025
Rydym yn croesawu cyhoeddi canllawiau Cadw’n Ddiogel rhag Hunanladdiad GIG Lloegr . Mae'r canllawiau yn gam pwysig ymlaen o ran darparu arfer gorau i helpu ymarferwyr i gefnogi cleifion a chleientiaid i aros yn ddiogel rhag hunanladdiad.
Roeddem yn falch o gymryd rhan yn y gweithgor a greodd y canllawiau, gan rannu ein safbwyntiau ar sut y gall y rheolyddion a’r Cofrestrau Achrededig a oruchwylir gennym roi’r canllawiau ar waith yn effeithiol.
Rydym yn annog ymarferwyr ar draws y sectorau cyhoeddus, annibynnol a gwirfoddol i ddefnyddio’r canllawiau hyn. Fel rhan o hyn, rydym wedi addo edrych ar sut y gellir integreiddio'r canllawiau i'n gwerthusiadau o sut mae rheolyddion a Chofrestrau Achrededig yn bodloni ein safonau. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein safonau i'w cadw'n ffit ar gyfer y dyfodol.