Prif gynnwys
Ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y Cod Ymarfer Gwasanaethau wedi'i ddiweddaru
25 Mehefin 2025
Rydym wedi ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ei God ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau.
Mae'r Cod wedi'i ddiweddaru mewn ymateb i ddyfarniad Goruchaf Lys y DU bod rhyw yn golygu 'rhyw biolegol' at ddibenion Deddf Cydraddoldeb. Rydym yn croesawu'r ffaith bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi cynhyrchu'r canllawiau hyn, ond yn bryderus nad ydynt yn eu ffurf bresennol yn gwneud digon i gefnogi rheoleiddwyr a gweithwyr proffesiynol rheoleiddiedig i gymhwyso'r dyfarniad.
Hoffem weld y canllawiau’n rhoi cyfeiriad cliriach ynghylch sut a phryd y gall rheoleiddwyr ofyn am wybodaeth am ryw ar ôl geni a sut mae’r dyfarniad yn croestorri â darpariaethau Deddf Cydnabod Rhywedd.
Ar gyfer gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol, mae angen i'r canllawiau nodi'n fanylach sut y gallant sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n bodloni'r diffiniad cyfreithiol newydd ac yn amddiffyn urddas a phreifatrwydd. Mae angen eglurhad hefyd ynghylch beth mae'r dyfarniad yn ei olygu ar gyfer darparu gofal o'r un rhyw, ac a oes gan gleifion hawl i wybod rhyw'r gweithiwr proffesiynol sy'n gofalu amdanynt. Mae angen mynd i'r afael â'r pwyntiau allweddol hyn er mwyn galluogi rheoleiddwyr a gweithwyr proffesiynol i gymhwyso'r dyfarniad mewn ffordd sy'n gynhwysfawr ac yn deg.