Prif gynnwys

Mae'r PSA yn cyhoeddi ei hunanasesiad ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

14 Hydref 2025

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar ein hunanasesiad yn erbyn Safon 3 o'n Safonau ar gyfer Rheoleiddio Da. Safon 3 yw ein Safon EDI. 

Fe wnaethon ni addasu Safon 3, fel ei bod yn fwy perthnasol i'n gwaith a'n swyddogaethau ac adolygu ein perfformiad o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025. Yn seiliedig ar ein gweithgaredd y llynedd, rydym yn falch o allu dweud, ar y cyfan, ein bod yn ystyried ein bod wedi bodloni'r Safon. 

Fel gyda'n hadolygiadau perfformiad o'r rheoleiddwyr, mae bodloni'r Safon yn golygu ein bod yn fodlon, o'r dystiolaeth yr ydym wedi'i hystyried, ein bod yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw. Nid yw'n golygu nad oes lle i wella. O ganlyniad, fel rhan o'r asesiad, rydym wedi nodi bod mwy y gallwn ei wneud. 

Mae'r asesiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i dryloywder, atebolrwydd, a gwelliant parhaus yn ein gwaith EDI. Yn ein hadroddiad cryno, fe welwch yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ble rydym yn gwneud cynnydd, a'r camau y byddwn yn eu cymryd nesaf i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn.