Mae'r Awdurdod wedi bod yn edrych ar y pryderon ynghylch gwrandawiadau rhithwir ac, yn dilyn ymgynghoriad, wedi cyhoeddi'r canllawiau hyn. Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad am eu hymatebion meddylgar, a ddarparwyd ar fyr rybudd. Gobeithiwn y bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol wrth sefydlu dull cyson ar draws y rheoleiddwyr.