Prif gynnwys
Adroddiad Monitro - Cyngor Meddygol Cyffredinol 2024/25
16 Rhag 2025
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Ystadegau allweddol
- Mae'r GMC yn rheoleiddio meddygon, cymdeithion meddyg a chymdeithion anesthesia
- Roedd 409,768 o weithwyr proffesiynol ar ei gofrestr (ar 30 Medi 2025)
- Mae'r adroddiad yn cwmpasu'r cyfnod 1 Hydref 2024 i 30 Medi 2025
Canfyddiadau allweddol a meysydd i'w gwella
Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol
Yn ystod y cyfnod adolygu hwn, dechreuodd y GMC reoleiddio Cymdeithion Anesthesia (AAs) a Chymdeithion Meddygol (PAs). Ymgynghorodd ar y rheolau, y safonau a'r canllawiau ar gyfer y proffesiynau hyn a diweddarodd ei ganllawiau ei hun i adlewyrchu ei fod bellach yn eu rheoleiddio. Mae hefyd wedi dylunio a chyflwyno'r asesiadau y mae'n rhaid i AAs a PAs eu pasio i gofrestru gyda'r GMC, a phrosesau sicrhau ansawdd ar gyfer darparwyr cyrsiau AA a PA.
Meddygon sy'n destun camau rheoleiddio dramor
Ym mis Hydref 2025 daeth i'r amlwg bod rhai meddygon a oedd â chyfyngiadau ar eu hymarfer dramor wedi cael caniatâd i ymarfer heb gyfyngiad yn y DU. Roedd rhai meddygon eisoes wedi'u cofrestru'n ddeuol ar yr adeg y gosodwyd y sancsiwn dramor ac roedd dau feddyg a gofrestrwyd gyda'r GMC ar ôl cael eu sancsiynu dramor. Cymerodd y GMC gamau i gyfyngu ar ymarfer y meddygon dan sylw ac mae'n ystyried sut y gall barhau i gryfhau ei brosesau cofrestru. Mae hwn yn faes risg y byddwn yn parhau i'w fonitro'n agos gyda'r GMC trwy ein hymgysylltiad arferol a'n hasesiadau adolygu perfformiad.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r GMC yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn ein Safon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ac rydym wedi nodi meysydd ychwanegol o arfer da eleni. Mae'r GMC yn parhau i adrodd ar gynnydd ei waith EDI, yn ogystal â chyfansoddiad ei gofrestr. Rydym hefyd wedi gweld enghreifftiau o'r GMC yn gweithio gyda sefydliadau eraill i gynhyrchu canllawiau i gofrestreion ar faterion EDI. Gofynnwyd i'r GMC roi mwy o wybodaeth i ni am ei ddulliau ar gyfer casglu data EDI gan bobl sy'n codi pryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer oherwydd bod gennym wybodaeth gyfyngedig am hyn y llynedd. Mae'r GMC yn bwriadu gwella ansawdd y data y mae'n ei gasglu trwy adolygiad data amrywiaeth.
Addasrwydd i Ymarfer
Mae'r GMC wedi bodloni pob un o'r pum safon addasrwydd i ymarfer eto eleni. Mae ei ddata amseroldeb wedi gwella ychydig ers y llynedd er ein bod yn nodi'r cynnydd mewn achosion hŷn agored; byddwn yn monitro hyn yn agos. Yn ystod y cyfnod adolygu hwn, adolygodd y GMC newidiadau a wnaeth yn 2022/23 yn ymwneud ag ymchwiliadau trydydd parti a nododd rai gwelliannau y gall eu gwneud, y byddwn yn eu hystyried yn ein hadolygiad nesaf. Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) ganllawiau newydd i gefnogi tribiwnlysoedd i wneud penderfyniadau a oedd yn ystyried asesiad risg a chanllawiau ar fathau penodol o achosion fel camymddwyn rhywiol.
Sut mae'r GMC yn bodloni'r Safonau Rheoleiddio Da
Safonau Cyffredinol
55 allan o 5
Canllawiau a Safonau
22 allan o 2
Addysg a Hyfforddiant
22 allan o 2
Cofrestru
44 allan o 4
Addasrwydd i Ymarfer
55 allan o 5
Cyfanswm
1818 allan o 18