Cofrestr cymwysterau gwyddorau bywyd yn cael ei hachredu: cam ymlaen ar gyfer diogelwch cleifion

29 Mawrth 2018

Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo ychwanegu cofrestr cymwysterau ar gyfer y Diwydiant Gwyddor Bywyd i'r Gofrestr Achrededig bresennol sy'n cael ei rhedeg gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd.



Y gofrestr hon yw'r gyntaf o'i bath ac mae'n gosod safonau cenedlaethol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn y diwydiant gwyddorau bywyd, gan roi sicrwydd i'r GIG. O dan y rhaglen Cofrestrau Achrededig, bydd ymarferwyr ar y gofrestr yn gallu arddangos marc ansawdd y Gofrestr Achrededig, arwydd eu bod yn perthyn i gofrestr sy'n bodloni safonau cadarn yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.



Dywedodd yr Athro Sue Hill OBE, Prif Swyddog Gwyddonol Lloegr ac Uwch Swyddog Cyfrifol Genomeg yn GIG Lloegr: 'Rydym yn croesawu cymeradwyo'r gofrestr cymwysterau nodedig hon. Mae hon yn enghraifft wych o gydweithio rhwng diwydiant, cyrff proffesiynol a'r GIG sydd o fudd i gleifion, diwydiant a'r cyhoedd.'



Dywedodd Andrew Davies, Cadeirydd y Cyngor Cofrestru LSI newydd: 'Mae'r Cyngor Cofrestru wrth ei fodd bod yr Awdurdod wedi dyfarnu achrediad i'r gofrestr cymwysterau, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws y diwydiant Gwyddor Bywyd. Mae hwn yn gam arwyddocaol i'r diwydiant ac mae'n tanlinellu ein hymrwymiad i welliant parhaus ac i gyfrinachedd ac amddiffyniad cleifion a'r cyhoedd.'



Dywedodd Harry Cayton, Prif Weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol: 'Rydym yn falch iawn o weld y gofrestr hon ar gyfer y Diwydiant Gwyddor Bywyd yn cael ei datblygu o dan nawdd yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd. Mae dod ag ymarferwyr ychwanegol i fframwaith eang o sicrwydd yn beth da i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd a dyma’r ffordd orau o hybu ansawdd. Mae'r rhaglen yn cynnig haen newydd, safonol o amddiffyniad ac yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n gweithio yn y Diwydiant Gwyddor Bywyd ddangos eu hymrwymiad i arfer da.'



Nid yw achrediad yn awgrymu bod yr Awdurdod wedi asesu rhinweddau unigolion ar y gofrestr. Mae hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd. Mae achrediad yn golygu bod cofrestr yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd yn bodloni safonau uchel yr Awdurdod Safonau Proffesiynol mewn meysydd sy'n cynnwys llywodraethu, gosod safonau, addysg a hyfforddiant, rheoli'r gofrestr, ymdrin â chwynion a rheoli risg.



Mae Cofrestrau Achrededig yn cwmpasu ystod gynyddol o alwedigaethau a sefydliadau a gall yr Awdurdod Safonau Proffesiynol achredu mwy nag un gofrestr mewn unrhyw alwedigaeth benodol. Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestrau Achrededig ar gael yn www.professionalstandards.org.uk/what-we-do/accredited-registers



DIWEDD

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion