Apelio yn erbyn Penderfyniadau Addasrwydd i Ymarfer Terfynol: astudiaeth achos
Cefndir/cyd-destun
Apêl Adran 40A y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) oedd hon, ac ymunodd y PSA â hi. Roedd yn ymwneud â meddyg a oedd wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi aflonyddu'n rhywiol ar saith o gydweithwyr rhwng Mai 2017 a Medi 2020. Ymunom ag apêl y GMC a chyflwyno sail ar wahân dros fethiant y panel i werthuso cymhelliant rhywiol y cofrestrydd a'i arwyddocâd ar gyfer difrifoldeb.
Y canlyniad
Cytunodd y llys a dyfarnodd: “Yn fyr, nid oes unrhyw esboniad credadwy diniwed o ymddygiad y meddyg [enw], o ystyried canfyddiadau ffeithiol y Tribiwnlys. Roedd y Tribiwnlys naill ai’n anghywir i beidio â chynnwys ystyriaeth briodol o’i gymhelliad yn ei drafodaethau a/neu, yn rhinwedd yr hepgoriad hwnnw’n gyfystyr ag afreoleidd-dra gweithdrefnol difrifol, daeth i ganlyniad anghyfiawn, sef, nad oedd addasrwydd Dr [enw] i ymarfer wedi’i amharu.”
Cafodd y penderfyniad ei ddiddymu, canfyddiad o nam wedi'i roi yn ei le, a'r penderfyniad ar sancsiwn ei anfon yn ôl at banel newydd i'w ystyried. Ar ôl i ni ymuno ag apêl y GMC, newidiodd y GMC ei ganllawiau ynghylch cyhuddo ac ystyried cymhelliant rhywiol ac aflonyddu rhywiol.